Mae fersiwn newydd o’r gêm eiriau boblogaidd Wordle bellach ar gael mewn sawl un o dafodieithoedd Iwerddon, yn ôl RTE.
Linda Keating, datblygydd meddalwedd, oedd wedi creu’r gêm Foclach yn yr iaith Wyddeleg, ond mae hi wedi creu fersiwn newydd, Litreach, sy’n defnyddio tafodieithoedd taleithiau Munster, Ulster a Connacht.
Cafodd ei hysbrydoli i greu’r fersiwn newydd ar ôl gweld pa mor boblogaidd oedd Foclach ymhlith siaradwyr rhugl, yn ogystal â’r rheiny sy’n ymddiddori mewn ieithoedd ond sydd heb y sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol i wella’u hiaith.
Mae Litreach yn profi gallu’r defnyddiwr i glywed geiriau yn un o’r tafodieithoedd, a cheisio’u sillafu nhw’n gywir.
Mae rhestr o eiriau ar gael i helpu defnyddwyr adnabod y geiriau cywir, ac mae pump o eiriau ym mhob tafodiaith ar gael bob dydd am flwyddyn gyfan.
Tra bod y gêm yn helpu siaradwyr newydd, mae siaradwyr rhugl yn helpu i wella’r gêm drwy sicrhau bod y geiriau sy’n cael eu mewnosod yn gywir ac wedi’u sillafu’n gywir.