Dywedodd 63% o’r meddygon ysbyty atebodd arolwg diweddar y bydden nhw’n fodlon gweithredu’n ddiwydiannol, gan gynnwys streicio, dros eu cyflogau a’u hamodau presennol.
Datgelodd yr arolwg hefyd fod 78% o’r ymatebwyr yn teimlo bod angen codiad cyflog sy’n cyfateb, neu’n uwch na chwyddiant i adlewyrchu eu cyfraniad presennol.
Roedd yr arolwg gafodd ei gynnal gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) yn cynnwys ymatebion gan feddygon sy’n gweithio ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Cafodd y cwestiynau eu creu i fesur barn aelodau ar y dyfarniad cyflog islaw chwyddiant diweddaraf (4.5%) gan Lywodraeth Cymru.
‘Loes calon’
“Mae canlyniad yr arolwg hwn yn peri gofid i bawb, gan gynnwys y meddygon a gymerodd ran,” meddai Dr Iona Collins, cadeirydd Cyngor Cymru y BMA.
“Mae meddygon yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n buddsoddi’r rhan fwyaf o’u bywydau i ofalu am eraill.
“Maen nhw’n poeni’n angerddol am eu swyddi ac yn cymryd eu galwedigaethau o ddifrif.
“Mae’n loes calon i feddygon ystyried cerdded i ffwrdd o’r gwaith, pan fydd meddygon yn gwybod fod cymaint o angen amdanynt yn y gweithle.
“Mae meddygon wedi bod yn rhoi’r gorau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dawel ers blynyddoedd, trwy leihau eu horiau cytundebol neu adael yn gyfan gwbl.
“Mae’r cymhelliad ariannol i aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi erydu dros y degawd diwethaf.
“At hynny, mae newid yn trethu pensiynau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi gweld uwch feddygon sydd wedi gweithio trosamser yn ddidwyll yn cael eu cosbi am gynnal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy dalu mwy na’r trosamser yn ôl fel treth bensiwn.
“Nid oes unrhyw system gofal iechyd arall yn dibrisio eu meddygon fel hyn, felly nid oes fawr o syndod bod cymaint o feddygon yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i weithio yn rhywle arall.
“Mae rhestrau aros cleifion ar y lefelau uchaf erioed ac mae sefyllfa weithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn effeithio ar gydweithwyr gofal iechyd yn gyffredinol.
“Heb weithredu nawr, bydd cleifion yn parhau i ddioddef o ganlyniad uniongyrchol i Wasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi’i danariannu heb ddigon o ofal clinigol uniongyrchol.
“Ar y sail honno, rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr o’r diwedd yn deffro i’r argyfwng yn y gweithlu meddygol ac yn cymryd camau difrifol, gan ddechrau gyda gwell dyfarniadau cyflog fel rhan o gynllun sydd ei angen ar frys i fynd i’r afael â blynyddoedd o erydiad cyflog.
“Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi gwybod iddi am ganlyniadau’r arolwg hwn ac i geisio trefnu cyfarfod brys i drafod yr angen i weithredu ar unwaith.
“Bydd aelodau ein cangen o bwyllgorau ymarfer nawr yn trafod canlyniadau’r arolwg ac yn penderfynu ar y camau nesaf.”
Galw ar y Llywodraeth i weithredu
“A yw’n syndod o gwbl gweld meddygon yn ystyried streicio ochr yn ochr â nyrsys, gweithwyr ambiwlans, a bydwragedd yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan Lafur pan welwn niferoedd fel hyn?” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r argyfwng cost-poen hwn yn hunllef fyw i’r rhai sy’n cael eu gorfodi i aros am fisoedd, os nad blynyddoedd am driniaeth, tra bod cleifion yn ofni a fyddant yn cael ambiwlans ai peidio, neu a fyddant yn cael eu gweld yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn cyfnod amser rhesymol.
“Ond mae’n amlwg yn cymryd toll ar staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd sy’n teimlo eu bod yn mynd i faes rhyfel bob dydd, ond does dim byd byth yn newid – i gyd oherwydd Llywodraeth Lafur a ddywedodd y byddai’n “ffôl” paratoi i leddfu cyfyngiadau Covid a’r galw a fyddai’n dod ar ôl sawl cyfnod clo.
“Mae angen i Lafur gael gafael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhoi’r gorau i dorri’r holl gofnodion anghywir.”