Mae’r arian sydd ar gael drwy Eich Cymuned, Eich Dewis wedi dyblu i £120,000.

Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth y Gymuned, a Heddlu’r Gogledd sy’n dathlu degawd o ariannu prosiectau yn 2023.

Ers y dechrau, mae Eich Cymuned, Eich Dewis wedi noddi prosiectau sy’n dod â phobol a sefydliadau at ei gilydd, gan greu cymuned fwy diogel i bawb.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae cyfanswm o dros £428,792 wedi cael ei roi i 149 o brosiectau yn gweithio i gefnogi’r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Mae’r arian sydd ar gael i’r prosiectau buddugol ar gyfer rownd nesaf y fenter wedi codi i gyfanswm o £120,000, wedi ei rannu ar draws 33 prosiect.

Bydd pedwar prosiect ym mhob un o’r chwe sir yn y gogledd yn derbyn £2,500, un prosiect ymhob un o’r chwe sir yn y gogledd yn derbyn £5,000 a thri phrosiect yn y gogledd yn derbyn £10,000.

Mae’r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy’r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda’r gweddill o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Bydd y cyfle i wneud cais eleni yn agor ar 9 Ionawr 2023 ac yn cau ar Chwefror 3, a bydd manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi maes o law ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â gwefannau PACT a Heddlu’r Gogledd.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chyhoeddi gan banel yn cynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn ogystal â PACT a chynrychiolwyr Heddlu’r Gogledd.

Bydd yr enillwyr wedyn yn cael eu dewis ar sail pleidlais gyhoeddus.

‘Cymaint o sefydliadau’n gwneud cymaint o waith da’

“Ro’n i’n un o banel Eich Cymuned Eich Dewis am y tro cyntaf yn 2021 ac ro’n i’n edmygu safon y prosiectau ymhob cais,” meddai Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd.

“Eleni, rwyf yn edrych ymlaen at weld rhagor o brosiectau cyffrous a chreadigol yn gwneud cais am arian.

“Mae cymaint o sefydliadau yn gwneud cymaint o waith da ar draws yr ardal, felly mae’n bleser gallu eu cefnogi nhw a’u gweld yn tyfu a pharhau gyda’u gwaith.

“Mae eleni yn arbennig o bwysig gan bod y fenter yn ddeg oed.

“Rwyf hefyd yn falch o weld y blaenoriaethau hyn o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn cefnogi’r prosiectau gwerth chweil hyn.

“Rwyf yn annog unrhyw un sy’n rhan o brosiect cymunedol neu fenter sy’n cwrdd â’r meini prawf i wneud cais.

“Mae hyn yn arbennig o wir eleni oherwydd y cynnydd yn yr arian rydym yn ei rannu fel rhan o’r dathlu.

“Gan fod y prosiectau terfynol yn cael eu dewis gan y cyhoedd hoffwn hefyd i’r prosiectau sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth eu cymunedau ac yn annog y gymuned i bleidleisio.”

Balch o fod yn rhan o garreg filltir

“Gan ein bod ni’n dathlu ein degfed flwyddyn hoffwn ddweud mor falch yr wyf i o fod yn rhan o’r garreg filltir hon,” meddai Ashley Rogers, cadeirydd PACT.

“Mae’r prosiectau sydd eisoes wedi cael arian o’r gronfa yn y gorffennol wedi defnyddio’r arian at ddefnydd gwerthchweil a hoffwn weld hyn yn parhau unwaith eto eleni.

“Fel rhan o’n dathliadau, rydym wedi codi’r swm ar gyfer 2023.

“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn galed i nifer o sefydliadau a phrosiectau, ond gyda mwy o arian, gobeithio y bydd cymaint o fentrau â phosib yn gwneud cais.”