Jordan Miers
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dyn 21 oed, a aeth ar goll ar ôl noson allan yn Abertawe, wedi dod o hyd i gorff yn Afon Tawe.

Credir bod Jordan Miers wedi ceisio cerdded adref ar hyd yr afon ar 20 Rhagfyr a doedd neb wedi ei weld ers 10:30 y noson honno.

Cafodd yr heddlu eu galw i Farina Abertawe am tua 10:20 y bore yma yn dilyn adroddiadau bod corff yn y dŵr. Maen nhw’n parhau i geisio adnabod y corff.

Dywedodd Heddlu’r De fod teulu Jordan Miers wedi cael gwybod.