Abertyleri
Mae’r Glas yn ymchwilio i dân mewn Gwe Gaffe ar Stryd Tillery yn nhref Abertyleri ym Mlaenau Gwent ddoe.

Chafodd neb ei anafu oherwydd y tân a ddaeth at sylw’r heddlu tua chwech yr hwyr, ond bu’n rhaid gwagio fflatiau cyfagos rhag ofn.

Credir i’r tân gael ei gynnau yn fwriadol ac mae teledyddion a chonsôl Play Station wedi eu dwyn o’r caffe.

Mae dyn lleol 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ladrata a chynnau’r tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd, ac yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Gall unrhyw un welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal, neu sydd â gwybodaeth yn ymwneud â’r mater, ffonio’r heddlu a dyfynnu’r cofnodrif 410 07/01/16.