Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw (dydd Llun, Hydref 17) fod rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu pobol 19 oed a hŷn i wella eu sgiliau a’u rhagolygon cyflogaeth, wedi cael hwb o £3m i ganolbwyntio ar sgiliau digidol a sgiliau sero net.

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cefnogi unigolion ar incwm is a’r rheini mae eu swyddi mewn perygl, i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a helpu i newid trywydd eu gyrfaoedd.

Bydd £1m yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi pobol mewn amrywiol feysydd gan gynnwys seiber, rhaglennu, dadansoddi data, seilwaith rhwydwaith a’r cwmwl, rheoli cronfeydd data, a sgiliau dadansoddi digidol.

Bydd £2m yn cael ei fuddsoddi i gefnogi unigolion naill ai i uwchsgilio neu i ailsgilio mewn sgiliau sero net, a fydd yn helpu i ddatblygu gweithlu medrus iawn i gefnogi Cymru i symud tuag at sero net.

Y sectorau fydd yn cael eu cefnogi yw adeiladu, ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu.

Hyd yn hyn, mae dros £51m wedi cael ei fuddsoddi ac mae bron i 30,000 o oedolion yng Nghymru wedi elwa ers i Gyfrifon Dysgu Personol gael eu lansio yn 2019, gyda thros 16,000 o unigolion wedi cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Mae’r cyrsiau hyblyg, sydd am ddim, ar gael ledled Cymru drwy 13 o golegau.

Maen nhw’n darparu hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau er mwyn sicrhau bod anghenion yr economi yn cael eu diwallu yn y dyfodol

‘Cyfle ardderchog’

“Rydyn ni’n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn yn ystod Wythnos Dysgu Oedolion,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cyfleoedd ardderchog i bobol ail-hyfforddi er mwyn canfod yr yrfa iawn iddyn nhw.

“Rydyn ni’n gwybod bod hyfforddiant sgiliau digidol a sero net yn feysydd mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw fwyfwy fel sylfaen sgiliau, ac maen nhw hefyd yn cyd-fynd yn agos iawn â’n hymrwymiadau i fod yn Gymru wyrddach, cryfach a thecach.

“Mae rhaglen y Cyfrifon Dysgu Personol wedi cael ymateb gwych ers ei lansio, a byddwn yn annog unigolion sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd i ddarganfod mwy.”

‘Dyfodol mwy disglair’

“Mae’n wych gweld bod cymaint o bobol ledled Cymru yn manteisio ar y cyrsiau sydd ar gael trwy Gyfrifon Dysgu Personol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar incwm gwario cartrefi, felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ariannu a theilwra hyfforddiant galwedigaethol i unigolion sy’n chwilio am ddyfodol mwy disglair.

“Mae cyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol nid yn unig yn helpu i uwchsgilio unigolion, ond yn allweddol er mwyn llenwi bylchau talent hanfodol yn ein heconomi.”