Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig i ailosod ei pherthynas â’r sector cyfreithiol.

Wrth siarad yn Llandudno yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith heddiw (dydd Gwener, Hydref 7), cyn dechrau blwyddyn gyfreithiol newydd Cymru, bydd Mick Antoniw yn rhybuddio bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn flwyddyn wael i reolaeth y gyfraith yn y Deyrnas Unedig.

Bydd e’n amlinellu pedwar peth penodol y dylai Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig eu gwneud i newid cyfeiriad.

Wrth alw am “newid cyfeiriad” ym mherthynas Llywodraeth y Deyrnas Unedig â’r sector cyfreithiol, bydd e’n condemnio iaith megis ‘activist lawyers’ a ‘lefty human rights lawyers’ a gafodd eu clywed gan weinidogion yn y weinyddiaeth flaenorol.

Bydd e’n galw am gael gwared â Bil Protocol Gogledd Iwerddon, y Bil Hawliau, a Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) – tri bil mae e’n rhybuddio y byddan nhw’n bygwth rheolaeth y gyfraith.

Bydd e hefyd yn galw am fwy o fuddsoddi yn y system gyfiawnder, gan ddweud y gallai diffyg ariannu atal mynediad pobol at gyfiawnder.

Yn olaf, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfrannu’n llawn at y gwaith o ddatblygu system gyfiawnder Cymru ar sail argymhellion Comisiwn Thomas – yr archwiliad mwyaf erioed o gyfiawnder yng Nghymru.

‘Newid cyfeiriad’

“Wrth i flwyddyn gyfreithiol newydd ddechrau, rhaid edrych yn ôl ar y niwed sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y 12 mis diwethaf,” meddai Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad.

“Rydyn ni wedi gweld ymosodiadau ar gyfreithwyr, Biliau gwrth-ddemocrataidd a methiant i fynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n atal pobol rhag cael mynediad at gyfiawnder.

“Mewn blwyddyn gyfreithiol newydd, gyda Llywodraeth newydd yn San Steffan, mae’r angen i newid cyfeiriad yn gwbl glir.

“Rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid ei thôn, tynnu ei deddfwriaeth fwyaf gwrthun yn ôl, ariannu’r system gyfiawnder gan gynnwys cynyddu cymorth cyfreithiol, ac ymgymryd ag o leiaf rai o argymhellion y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddatblygu cyfiawnder yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau y gall pobol Cymru gael y mynediad effeithiol at gyfiawnder sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailosod ei pherthynas â’r sector a gwneud yr un ymrwymiad.”