Mae Gogledd Cymru ymysg y rhanbarthau mwyaf diogel ar gyfer yfed a gyrru yn ôl astudiaeth newydd.
Mae Cymdeithas Ryngwladol y Gyrwyr wedi cymharu data diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan edrych ar nifer y profion alcohol anadl ym mhob rhanbarth (yn ôl heddlu), yn ogystal â chanran y rhai oedd yn bositif.
Cafodd cyfanswm o 252,069 o brofion anadl alcohol eu cynnal ledled Cymru a Lloegr yn ôl yr adroddiad diweddaraf.
Cafodd y data ei drefnu o’r uchaf i’r isaf er mwyn dangos pa ranbarthau oedd â’r ganran uchaf o brofion positif.
Lleiaf o achosion
Mae gogledd Cymru ymysg yr ardaloedd ledled Cymru a Lloegr sydd â’r gyfran isaf o achosion o yfed a gyrru, gydag 11.9% o brofion anadl alcohol yn bositif – neu 1,033 allan o gyfanswm o 8,698.
Dyfnaint a Chernyw sydd ar y brig, gydag 11.3% o brofion anadl alcohol yn bositif – neu 1,205 allan o gyfanswm o 10,687.
Swydd Lincoln sy’n ail, gydag 11.4% o brofion anadl yn bositif, tra bod Swydd Hampshire yn drydydd gydag 11.7%.
Hefyd ar y rhestr mae Essex a Sir Caer.
Mwyaf peryglus
Swydd Gaergrawnt yw’r rhanbarth mwyaf peryglus ar gyfer yfed a gyrru, gyda’r ganran uchaf o brofion anadl alcohol positif.
Roedd 33.5% o brofion yn bositif – neu 2,488 allan o 7,437.
Swydd Gaerloyw yw’r ail ranbarth mwyaf peryglus ar gyfer yfed a gyrru.
Roedd 1,943 o’r 7,238 o brofion anadl alcohol yn bositif, neu 26.8%.
Yn drydydd mae Swydd Gaerlŷr, lle roedd 24.5% o brofion anadl alcohol yn bositif, tra bod y ffigwr yn Suffolk yn 24.4%.
Hefyd ar y rhestr gyda’r canrannau uchaf mae Gorllewin Swydd Efrog, De Swydd Efrog a Manceinion Fwyaf.
‘Ni ddylid byth annog yfed a gyrru’
“Ni ddylid byth annog yfed a gyrru, ac mae ein hymchwil yn dangos yr ardaloedd yng Nghymru a Lloegr sydd â’r troseddwyr gwaethaf o ran profion anadl,” meddai llefarydd ar ran y gymdeithas yrwyr.
“Y terfyn alcohol cyfreithlon yng Nghymru a Lloegr ar gyfer gyrru yw 80 miligram o alcohol fesul 100ml o waed neu 35 microgram o alcohol fesul 100ml o anadl.
“Fodd bynnag, nid oes unrhyw ffordd o wybod faint y gallwch chi ei yfed ac aros o dan y terfyn oherwydd gall ddibynnu ar eich pwysau, oedran, metaboledd, faint o fwyd rydych chi wedi’i fwyta a ffactorau eraill.
“Os ydych yn gyrru, dylid argymell nad ydych yn yfed unrhyw alcohol o gwbl, gan y gall alcohol newid eich gallu i farnu cyflymder neu bellter yn ddifrifol, ac arafu eich ymateb, gan olygu eich bod yn fwy tebygol o fod yn rhan o wrthdrawiad.”