Mae’r cynlluniau i droi rhan o adeilad tafarn y Pinewood Tavern yn y Trallwng yn llety gwyliau wedi cael eu cymeradwyo gan gynllunwyr Cyngor Sir Powys.

Yn gynharach eleni, cafodd dau gais cynllunio eu cyflwyno gan MKH Portfolio Ltd, cwmni mae Mike Harris, cadeirydd Clwb Pêl-droed y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt yn berchen arno.

Mae’r cais cyntaf yn egluro sut y byddai Pinewood yn cael ei throi’n chwe uned wyliau, ac mae’r ail yn gais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig.

Mae rhannau o safle Pinewood yn cynnwys dau adeilad rhestredig Gradd II.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y Pinewood Tavern ar y llawr gwaelod yn cael ei hadnewyddu – a honno’n aros yn dafarn – a throi ystafelloedd gwesty’n llety gwyliau hunangynhaliol.

Byddai llety’r rheolwr yn yr adeilad hefyd yn cael ei droi’n llety gwyliau.

Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys adnewyddu mynedfa wreiddiol y bar ar gornel Stryd Broad a Stryd y Neuadd, disodli ac adnewyddu mynedfa’r llety llawr uchaf ac estyniad newydd ‘ffrynt y siop’ ar flaen eiddo ar Stryd Broad.

Byddai gan bum uned allan o chwech un ystafell wely, tra byddai gan yr un fwyaf, sydd â 64.3 metr sgwâr o lawr, ddwy ystafell wely.

‘Cydymffurfio yn ei hanfod’

“Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio yn ei hanfod â pholisi cynllunio a’i fod yn dderbyniol,” meddai’r swyddog cynllunio Gwyn Humphreys.

“Ystyrir, yn wyneb y sylwadau a gafwyd gan y swyddog treftadaeth adeiladau ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys na fyddai’r cynlluniau’n cael unrhyw effaith niweidiol ar gymeriad, lleoliad nac ymddangosiad yr adeilad rhestredig sy’n ei gynnal, adeiladau rhestredig cyfagos nac Ardal Gadwraeth y Trallwng.”

Unig asgwrn y gynnen yr adroddiad, eglura Gwyn Humphreys, yw’r gwrthwynebiadau i’r cynnig mewn perthynas â “diffyg darpariaeth ar gyfer pobol ag anableddau”.

“Tra cydnabyddir nad yw’r cynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pobol ag anableddau, mae’n bwysig nodi nad yw hyn yn orfodol o fewn y system gynllunio, a’i fod yn hytrach yn rhan o’r broses reoliadau adeiladu.”

Cafodd ceisiadau blaenorol, a’r diweddaraf ohonyn nhw yn 2020, i droi’r adeilad yn fflatiau eu tynnu’n ôl ar ôl i swyddogion treftadaeth adeiladau ac amgylcheddol godi “pryderon sylweddol” ynghylch yr addasiadau a gafodd eu cynnig ar gyfer yr adeilad.