Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion, wedi i ddyn 36 oed gael ei anafu’n sylweddol mewn damwain ffordd yng Ngwynedd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A487 ger Garndolbenmaen, tua 3.50yb Ddydd Calan.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai dim ond un cerbyd oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad, sef Vauxhall Meriva lliw arian. Y gred ydi ei fod yn teithio o Borthmadog i gyfeiriad Caernarfon.
Fe gafodd y dyn 36 oed ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ond mae bellach wedi’i drosglwyddo i uned drawma Stoke.