Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i achosion o drywanu, wedi i ddau unigolyn gael eu cludo i’r ysbyty Nos Calan.

Fe ddigwyddodd y trywanu ar y stryd yn Blaenafon toc wedi 11yh neithiwr.

Mae Heddlu Gwent hefyd wedi cadarnhau fod dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad a’r digwyddiadau.

Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un a allai fod a gwybodaeth, i gysylltu gyda nhw ar y rhif 101.