Mae grŵp o rieni wedi colli her gyfreithiol i atal cyflwyno cwricwlwm newydd ar berthnasoedd a rhywioldeb yng Nghymru, a bydd yn rhaid iddyn nhw dalu costau gwerth £12,000.

Fe wnaeth y grŵp, sy’n gwrthwynebu cwricwlwm Addysg Perthnasau a Rhywioldeb (RSE) newydd Llywodraeth Cymru, ofyn am waharddeb yn yr Uchel Lys i atal y polisi rhag cael ei ddysgu i blant o saith oed.

Roedden nhw am i farnwr orchymyn gwaharddiad dros dro nes bod adolygiad barnwrol i’r cwricwlwm ym mis Tachwedd.

Ond fe wnaeth barnwr yn yr Uchel Lys wrthod y cais, gan ddweud nad oedd yr hawlwyr yn dangos unrhyw dystiolaeth y byddai plant yn cael eu niweidio gan y cwricwlwm.

“Ar wahân i’r gwrthwynebiadau cyffredinol sydd wrth wraidd yr honiad hwn, nid yw’r dystiolaeth mewn gwirionedd ni fydd yr un o blant yr hawlwyr yn cael eu dysgu unrhyw beth y mae’r hawlwyr yn gwrthwynebu rhwng nawr a’r gwrandawiad ym mis Tachwedd 2022,” meddai Mrs Ustus Tipples.

“Ar ben hynny, does dim tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno gerbron y llys sy’n profi pa niwed, os o gwbl, mae plant yr halwyr yn debygol o’i ddioddef.

“Mae’r hawlwyr wedi cael digon o amser i gasglu’r dystiolaeth hon, ond eto mae eu cais wedi ei sylfaenu ar honiadau anghywir ac nid yw hynny’n ddigon da.”

Ychwanegodd y barnwr na allai’r llys orchymyn Llywodraeth Cymru i esgusodi plant unigol o’r cwricwlwm gan nad oes awdurdod deddfwriaethol i wneud hynny a beirniadu’r oedi wrth geisio’r waharddeb.

‘Hawliau’

Cafodd yr her gyfreithiol ei chyflwyno gan grŵp Diogelu Plant Cyhoeddus Cymru, a ddywedodd fod cwricwlwm RSE yn amhriodol ar gyfer plant oed cynradd.

Dywed Paul Diamond, sy’n cynrychioli’r hawlwyr, eu bod yn bedwar mam a thad “sy’n ymladd dros eu plant fel y byddai unrhyw riant”.

“Dydyn nhw ddim am fynd i’r llys, dydyn nhw ddim am ddilyn y llwybr yma, maen nhw jyst am amddiffyn eu plant,” meddai.

“Maen nhw’n credu y byddai eu plant a phlant eraill yn cael eu niweidio gan y cwricwlwm, yn enwedig plant bregus.

“Mae’n gwestiwn o hawliau plant a rhieni,” meddai.

“Mae’n mynd i symud y cydbwysedd rhwng y wladwriaeth a rhieni. Dim ond y dechrau yw hyn. Pwy sy’n magu’r plant, y rhieni neu’r wladwriaeth?”

‘Cymesur a chyfreithlon’

“Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod cais gan grŵp ymgyrchu i dynnu eu plant allan o Addysg Perthnasau a Rhywioldeb ym mis Medi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd pob ysgol sy’n cyflwyno’r cwricwlwm o fis Medi ymlaen yn dysgu RSE mewn ffordd sy’n briodol o ran datblygiad fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth.

“Mae hyn yn golygu y bydd pob dysgwr yn yr ysgolion yma yn derbyn RSE, sy’n hanfodol i’w cadw’n ddiogel.

“Nid ydym yn gallu gwneud sylw ar y materion cyfreithiol ehangach gan y byddant yn cael eu trin mewn achosion yn yr Uchel Lys.

“Rydym yn parhau’n hyderus bod ein diwygiadau’n gymesur ac yn gyfreithlon, ac rydym yn ailadrodd nad oes gan yr honiadau y mae’r grŵp hwn yn eu gwneud yn ei lenyddiaeth unrhyw sail na thystiolaeth o gwbl.”

‘Trafodaeth sydd angen ei chael’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Laura Anne Jones AoS: “Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll yn gadarn y tu ôl i rieni a’u hawl i ddewis tynnu eu plant allan o wersi RSE ac i benderfynu pryd mae rhai pynciau’n briodol ar eu cyfer.

“Rydym yn deall trafferthion y rhieni wrth geisio gwneud hyn drwy’r llysoedd, ond yn deall ac yn parchu penderfyniad y barnwr heddiw.

“Ond mae hon yn drafodaeth sydd angen ei chael ac mae angen clywed pryderon rhieni.

“Yn anffodus, mae’r Llywodraeth Lafur yn ymddangos yn benderfynol o anwybyddu ewyllys nifer o rieni ar draws Cymru.

“Yn y bôn, dylai’r penderfyniad fod yn eu dwylo nhw, nid y wladwriaeth.”

“Gwarthus, trist ac anghyfrifol”: Ymateb chwyrn i brotest yn oriel Cyngor Gwynedd

Huw Bebb

“Pan mae pobol yn dechrau ymddwyn fel yna, dwyt ti ddim yn gwybod be wneith neb”