Wrth i Wrecsam ddod yn ddinas heddiw (dydd Iau, Medi 1), mae disgwyl diweddariad ar gais Cyngor Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant 2029.

Ar ôl colli o drwch blewyn i Bradford yng nghystadleuaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gynharach eleni i fod yn Ddinas Diwylliant 2025, pleidleisiodd bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam fis Gorffennaf diwethaf i wneud cais eto.

Mae disgwyl i Bradford elwa ar werth rhwng £250m a £300m o gyllid o ganlyniad i ennill.

Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Gyflogaeth, Busnes a Buddsoddiadau’r Cyngor, bydd y Cynghorydd Hugh Jones, y prif aelod dros yr amgylchedd, yn rhoi diweddariad ynghylch y gwaith sy’n cael ei gwblhau ar y cais nesaf, yn barod ar gyfer ceisiadau’n agor yn 2025.

Mae crynodeb gweithredol o’r adroddiad, a fydd yn cael ei ddarllen gan aelodau cyn y cyfarfod, yn nodi bod y Cyngor wedi derbyn £125,000 gan Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel un o’r rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2025.

Mae angen gwario’r arian erbyn Mawrth 2023, ac mae’r adroddiad yn amlinellu ym mle mae’r arian hwn yn cael ei wario.

Mae cyfanswm o £50,000 wedi cael ei glustnodi i ddatblygu prosiect Comisiynu Cymunedol wedi’i gefnogi.

Bydd angen mynegi diddordeb erbyn Hydref 2022, gan grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau trydydd sector i wneud cais am gefnogaeth ariannol i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu weithgaredd sy’n dangos cefnogaeth bositif, yn dathlu diwylliant unigryw Wrecsam ac yn “codi ymwybyddiaeth o’r daith” sydd ei hangen i gefnogi’r cais ar gyfer Dinas Diwylliant 2029.

Y dyddiad cau ar gyfer yr holl weithgareddau a phrosiectau yw Mawrth 31 y flwyddyn nesaf.

Bydd wyth comisiwn gwerth £5,000 yn cael eu rhoi, gyda £10,000 ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer cydweithio â phartneriaid cymunedol lleol i gefnogi prosiectau ar raddfa lai.

Ychwanega’r adroddiad: “Rhaid i’r holl weithgareddau ddangos datblygiad partneriaethau diwylliannol a fydd yn helpu cynnydd Wrecsam fel lleoliad diwylliannol a chefnogi ein cais ar gyfer 2029.”

Mae cyfanswm o £12,500 wedi’i neilltuo i sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol “annibynnol, amrywiol â sgiliau” i arwain y prosiect parhaus i gael ei sefydlu yn hwyr y flwyddyn nesaf neu’n gynnar yn 2024.

Ychwanega’r adroddiad: “Rhagwelir y bydd y Bwrdd yn arwain ar ddatblygu blynyddoedd diwylliant gyda rhaglenni yn 2023, 2025, 2027 ac yn arwain i fyny at y flwyddyn 2029.”

Bydd £50,000 pellach yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cysylltiadau â chyrff cenedlaethol a rhynglwadol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno dau ddigwyddiad mawr cyn diwedd mis Mawrth nesaf.

Noda’r adroddiad: “Rydym yn targedu’r Eisteddfod, comedi a FOCUS Wales gan fod gan y rhain y potensial uchaf i gyflwyno yn y maes hwn o fewn amserlen fer.

“Ar yr adeg hon, mae angen i ni adael hyblygrwydd o ran pa un, o ystyried y bydd rhaid i ni gydweithio â phob un i weld pa un all gyflwyno’r cynnig gorau i’w gyflwyno.”

Yn olaf, mae £12,500 yn cael ei roi tuag at ymchwil i ddatblygu strategaeth ‘Prifddinas Chwarae’r Deyrnas Unedig’.

Ychwanega’r adroddiad: “Bydd hyn yn cael ei arwain gan banel ymgynghori o bobol broffesiynol leol, genedlaethol a rhyngwladol. Gweithgareddau chwarae ledled y gymuned, datblygu sgiliau chwarae a chynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth, rhannu sgiliau gwybodaeth ac anelu i ddatblygu ‘Glasbrint Chwarae’ yn genedlaethol i sefydlu chwarae fel cynnig cymunedol craidd i bobol ifanc.”

Cynlluniau eraill

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i sefydlu Bwrdd Dinas Diwylliant cysgodol yr hydref hwn, a fydd yn goruchwylio ac yn llywio’r gwaith ar ran Dinas Diwylliant Wrecsam tan bod Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol a Chymunedol newydd arfaethedig yn cael ei sefydlu yn niwedd 2023 neu ddechrau 2024.

Mae Joanna Swash o Moneypenny eisoes wedi’i phenodi’n gadeirydd dros dro, a bydd y Bwrdd Cysgodol yn cynnwys wyth i 12 o bobol a chanddyn nhw amrywiaeth o sgiliau.

Dydy bod yn aelod o’r Bwrdd Cysgodol ddim yn gwarantu penodiad i’r Bwrdd annibynnol llawn.

Bydd gofyn i aelodau’r pwyllgor gefnogi argymhellion yr adroddiad yn y cyfarfod ddydd Mercher nesaf (Medi 7).