Am y tro cyntaf ers 2019, mae’r ŵyl Drysau Agored yn cael ei chynnal yn llawn fis nesaf, gyda mwy na 200 o ddigwyddiadau treftadaeth yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim mewn safleoedd treftadaeth anarferol a chudd ledled Cymru, gan gynnwys y safleoedd hynny sydd fel arfer â thâl mynediad.

I nodi’r achlysur ddydd Mawrth (Awst 30), cafodd Drysau Agored ei lansio’n swyddogol yn ninas hynafol Tyddewi, sy’n enwog am harddwch urddasol ei Heglwys Gadeiriol a’i statws fel dinas leiaf Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Fel rhan o ŵyl Drysau Agored, daeth Tyddewi yn fyw gyda straeon llai adnabyddus am y lle fu’n gartref i nawddsant Cymru yn y chweched ganrif, gyda mynediad yn cael ei roi am y tro cyntaf i’r cyfryngau i borthdy canoloesol y ddinas, y lapidariwm a thŵr y gloch.

Dyma gasgliad o luniau o’r lansiad…

Dr Ffion Reynolds, Gwilym Hughes, Richard Suggett a’r Deon Sarah Rowland Jones

 

Canu’r clychau ym Mhorth y Tŵr, sef tŵr ar wahân sy’n rhan o’r porth o’r 13eg ganrif.
Rhai o’r clychau sy’n rhan o gasgliad o 10.
Buodd mwelwyr hefyd yn cael y cyfle i weld cyfres o 12 paentiad canoloesol o’r ddeuddegfed a’r bedwaredd ganrif ar ddeg sydd heb eu gweld erioed o’r blaen ar y teledu.