“Does dim rheolau ynghlwm â’r Blaid Geidwadol mwyach”, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Owen Williams.

Daw hyn ar ôl i’r Arglwydd Frost ddweud nad yw Cymru a’r Alban yn wledydd, y dylai’r Deyrnas Unedig ddod yn “wladwriaeth unedol” gyda datganoli’n cael ei “ddadwneud” ac y dylai annibyniaeth gael ei wneud yn “amhosib”.

Wrth ysgrifennu yn y Telegraph, dywedodd y cyn-weinidog Brexit fod llywodraethau datganoledig yn “israddol” i San Steffan a bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid y ffordd maen nhw’n eu trafod nhw.

“Does gan y gweinyddiaethau datganoledig ddim pwerau mewn cysylltiadau tramor na mewnfudo – maen nhw’n ‘faterion sy’n cael eu cadw yn ôl’,” meddai.

“Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn plismona’r ffiniau hyn, cyn bo’ hir, ni fyddant yn bodoli.

“Yn y cyfamser, rwy’n annog pobol yn Lloegr i beidio ildio i’r ddadl ‘gadewch iddyn nhw fynd’.

“Yn rhannol oherwydd y byddai chwalu’r wlad yn sarhad cenedlaethol enfawr. Yn Ewrop a thu hwnt, byddai’n cael ei weld fel embaras y bydden nhw’n manteisio arno i’r eithaf.

“Ond yn bwysicach fyth, oherwydd mae’n foesol anghywir.

“Ni ddylid cefnu ar gefnogwyr yr Undeb yn yr Alban, pobol sydd wedi adeiladu eu bywydau a’u teuluoedd ar dybiaeth ei sefydlogrwydd.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn wlad i bawb ac mae’n rhaid i ni ei gwarchod a’i chefnogi.”

‘Anweddus ac anfoesol’

Ond mae Owen Williams yn wfftio’r sylwadau.

“Dw i’m yn cymryd lot o beth mae’r gŵr yma yn ei ddweud o ddifrif,” meddai Owen Williams wrth golwg360.

“Mae’r agweddau mae e’n eu bloeddio yn gwthio pobol tuag at y ddelwedd yna o annibyniaeth yn yr Alban.

“Ond yng Nghymru, dyw trin a thrafod annibyniaeth ddim wedi blodeuo eto, dyw e ddim wedi aeddfedu eto.

“Dydyn ni ddim yn y sefyllfa lle mae’r sgwrs yna wedi symud yn ei blaen.

“Yr hyn sy’n fy mhoenydio i yw’r diallu yma i gymryd gafael ar bethau fel hyn a’i droi e’n ôl ar y bobol sy’n dweud y pethau yma er mwyn atgyfnerthu’r hyn rydyn ni am ei weld yn digwydd ac atgyfnerthu ein dadl ni o blaid annibyniaeth.

“Felly, mi ddylai mudiadau sydd o blaid annibyniaeth fod yn bloeddio hwn mewn ffordd sy’n rymus ac sy’n gwneud synnwyr i bobol.

“Mae eisiau gafael yn y datganiad yma gan Frost yn y ffordd fwyaf blin er mwyn sicrhau bod neb heb glywed yr hyn oedd ganddo i’w ddweud, y ‘dylai Lloegr stopio hyn rhag digwydd’.

“Mae hynny yn fy nghythryblu i.

“Mae gyda ni hawliau dynol, the right of all people to self determination, dyw e ddim fod i allu dweud hyn.

“Mae e’n anweddus ac yn anfoesol ac yn erbyn y gyfraith.

“Dyma ddyn a dyma Lywodraeth sydd wedi torri’r gyfraith fwy nag unwaith.”

‘Dim rheolau ynghlwm â’r Blaid Geidwadol’

“Roedd pobol yn dweud hyn yn ystod Brexit, ‘beth sydd nesaf i’r Llywodraeth asgell dde eithafol hon?’, meddai wedyn.

“Os nad (ydyn nhw am fod yn ymosod) ar bobol o Affrica ac Asia sy’n dod mewn, yna’r bobol sydd yma, yr iaith Gymraeg a’r gallu yna i fod yn annibynnol.

“Mae e’n dweud mai’r SNP yw’r gelyn, dwyt ti methu gwneud hynna mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, nid dyna’r ffordd o wneud hyn.

“Does yna ddim rheolau ynghlwm â’r Blaid Geidwadol mwyach.”