Mae Adfywio Trefi Gwledig, sy’n cael ei redeg gan raglen LEADER Cynnal y Cardi, yn dweud eu bod nhw’n cydweithio ag “amrywiaeth o brosiectau” mewn chwe thref wledig yng Ngheredigion.
Mae cynllun Adfywio Trefi Gwledig wedi bod yn cefnogi Cyngor Tref Tregaron gyda chyfres o dechnegau marchnata a gosodiadau i hyrwyddo a gwella Tregaron wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Maen nhw’n dweud bod y “gwaith hwn yn waddol i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn dilyn y mewnlifiad o filoedd o bobol i’r dref yn ddyddiol drwy gydol yr ŵyl ac wedi hynny i’r cymunedau gwledig cyfagos a safleoedd o ddiddordeb lleol”.
Mae gwaith datblygu pellach ar y gweill i gynnal a gwella atyniad a bywiogrwydd y dref.
Mae’r cynllun Adfywio Trefi Gwledig wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
‘Ymdrech tîm’
“Gwnaed ymdrech tîm gwych gan Gyngor Tref Tregaron, cyflenwyr, a nifer o wirfoddolwyr i sicrhau bod y gosodiadau yn eu lle ar gyfer yr Eisteddfod,” meddai’r Cynghorydd Clive Davies, yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio.
“Cyfrannodd hyn oll at ŵyl lwyddiannus, a oedd yn arddangos y gorau o Geredigion.
“Bydd ymdrech barhaus gan aelodau gweithgar o’r gymuned yn cynnal y gwelliannau ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r cynllun Adfywio Trefi Gwledig yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr mewn chwe thref wledig yng Ngheredigion ac mae amrywiaeth o brosiectau’n dod i’r amlwg i gefnogi uchelgais y Cyngor i greu lleoedd ffyniannus, sy’n canolbwyntio ar bobol ac sy’n gydnerth.
“Mae syniadau eraill yn cynnwys peilot ar gymhwyso technoleg ‘Rhyngrwyd o Bethau’ yn ardal Aberteifi, ac Arolwg Trafnidiaeth yn Aberaeron.”