Mae cynlluniau i westy hanesyddol gynyddu eu capasiti llety gwyliau wedi cael eu cyflwyno i gynllunwyr Cyngor Sir Powys.
Mae Robert Thomas, perchennog y Cann Office yn Llangadfan, wedi gwneud cais i godi chwe chaban gwyliau ac adeiladau cysylltiedig ar dir ger y gwesty.
Mae’r Cann Office ar ffordd A458, sef y brif heol dwristaidd i’r gorllewin tuag at draethau Aberdyfi, Aberystwyth, y Borth a Thywyn, yn ogystal â mynyddoedd Eryri.
Eglurodd yr asiant Richard Corbett o gwmni Roger Parry and Partners mewn datganiad cynllunio y bydd y cynnig “yn cynnig profiad gwyliau unigryw, gan alluogi ymwelwyr i ymlacio a dianc yn y lleoliad gwledig hwn”.
“Hoffai’r cleientiaid gryfhau eu busnes presennol tra’n creu busnes cynaliadwy i’w galluogi nhw i fod yn fusnes llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na dibynnu ar ymwelwyr tymhorol, ac felly’n eu galluogi nhw i gyflogi rhagor o aelodau o staff,” meddai.
“Mae’r datblygiad sydd wedi’i gynnig o fewn ardal goediog sefydledig ac i ffwrdd o’r tŷ tafarn, wedi’i chuddio rhag y tirlun o’i gwmpas o ganlyniad i’r topograffi a llystyfiant.”
Twristiaeth yn gwneud “cyfraniad sylweddol” i’r economi leol
Yn ôl Richard Corbett, mae twristiaeth yn gwneud “cyfraniad sylweddol” i economi leol Powys, gan gefnogi 12,327 o swyddi, a bod yna 1,549 llety i dwristiaid yn y sir yn cynnig ychydig yn llai na 50,000 o wlâu.
Ychwanega fod twristiaeth yn cefnogi diwydiannau eraill megis amaeth, crefftau a gwasanaethau lleol.
“Bydd y cynnig yn darparu llety ychwanegol i dwristiaid ym Mhowys, gan gyfrannu at yr economi leol,” meddai.
Fis Ionawr 2021, cafodd Robert Thomas ganiatâd ar gyfer pum caban “moethus” a byddai’r cynllun newydd ochr yn ochr â’r rhain.
Ond dywed Richard Corbett, er bod y gwaith ar y cabanau wedi dechrau, fod costau cael datblygiad moethus “wedi arwain at oedi” wrth weithredu’r safle.
Eglurodd fod y cynnig newydd ar gyfer “caban mwy safonol” sy’n gallu cael ei adeiladu’n gynt.
“Wedi’i sefydlu yn 1310, mae’r Cann Office yn rhan o wead treftadaeth yr ardal leol ac ardaloedd cyfagos yng nghanolbarth Cymru,” meddai.
“Yn y bennod ddiweddaraf yn ei hanes rhyfeddol, rydym wedi gweld y perchnogion presennol Robert a Rachel yn rhoi ail wynt i’r Office sydd bellach mor lliwgar a bywiog ag erioed.”
Y dyddiad cau i’r cynllunwyr benderfynu ar y cais yw Medi 21.