Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn dweud bod cynllun eiddo sy’n anelu i warchod cymunedau Cymraeg “yn gwahaniaethu yn erbyn prynwyr tai nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg”.

Mae’r cynllun Tai Teg yn galluogi eiddo i gael eu marchnata’n lleol am gyfnod penodol, fel rhan o ymdrechion i warchod cymunedau Cymraeg rhag ail dai a llety gwyliau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n ceisio gwarchod y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac fe fydd yn gwarchod enwau llefydd Cymraeg.

‘Cenedl noddfa’

Ond mae wedi cael ymateb chwyrn gan Janet Finch-Saunders, llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r cynllun hwn yn ymddangos fel pe bai’n hyrwyddo gwahaniaethu yn erbyn prynwyr tai nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg,” meddai.

“Mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol.

“Mae angen eglurhad ar unwaith ynghylch y polisi hwn gan y Llywodraeth Lafur.

“Fel cenedl noddfa, ni ddylai fod yna wahaniaethu yn erbyn pobol sy’n ceisio prynu tŷ yng Nghymru.

“Ddylen ni ddim anghofio na fydd y newidiadau a chynlluniau gwirfoddol bach pitw yn mynd i’r afael â’r broblem sylfaenol o argyfwng tai sydd wedi’i achosi gan Lafur.

“Does dim dianc rhag y ffaith fod Llafur ond yn cyflwyno hanner y cartrefi mae eu hangen ar Gymru er mwyn ateb y galw.

“Argyfwng tai Llafur yw hwn, ac maen nhw’n methu â gweithredu er lles cymunedau lleol ledled Cymru.”