Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar arweinydd Cyngor Caerdydd a phrif weinidog Cymru i ddweud na fyddan nhw’n cyfarfod â theulu brenhinol Qatar.

Daw hyn ar ôl i Ali Ahmed, un o gynghorwyr Caerdydd, ddweud ei fod e’n ceisio trefnu cyfarfod rhwng Huw Thomas, Mark Drakeford a Sheikh Dr Khalid bin Thani Al-Thani, sy’n aelod o’r teulu.

Dywedodd Ali Ahmed ar y cyfryngau cymdeithasol iddo gyfarfod â Sheikh Khalid bin Hamad bin Khalifa Al Thani yn ei blasty yn Llundain, a’i fod e wedi estyn gwahoddiad iddo ar ran Mark Drakeford a Huw Thomas i ddod i Gaerdydd “am gyfleoedd buddsoddi”.

Ond bu’n rhaid iddo egluro wedyn fod “yr achlysur yn ymweliad preifat, nid yn gyfarfod”, ac “yn sicr ddim ar ran y Cyngor”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn galw ar Mark Drakeford a Huw Thomas i ddweud na fyddan nhw’n cynnal cyfarfodydd â’r teulu, gan dynnu sylw at y teulu’n torri hawliau dynol.

‘Llawer o ddryswch’

“Mae’r Cynghorydd Ali Ahmed wedi achosi llawer o ddryswch gyda’i weithredoedd diweddar,” meddai Rhys Taylor.

“Er iddo egluro bellach mai ymweliad personol oedd e yn hytrach na phroffesiynol, dw i ddim yn hollol siŵr fod trafod cyfleoedd buddsoddi yng Nghaerdydd a chyfarfodydd posib ag arweinydd y Cyngor a’r prif weinidog yn dod o dan personol.

“Hoffwn weld Huw Thomas, arweinydd y Cyngor a’r prif weinidog Mark Drakeford yn wfftio cyfarfod â theulu brenhinol Qatar.

“Rydym yn gwybod fod gan Qatar un o’r recordiau gwaethaf o ran hawliau dynol yn y byd, gyda’r wlad yn 126 allan o 167 ar fynegai democratiaeth y byd ac yn perfformio’n wael o ran hawliau menywod, gyda system warchodaeth dynion yn dal yn ei le sy’n golygu bod angen caniatâd dyn ar y rhan fwyaf o fenywod er mwyn cwblhau tasgau bob dydd.

“Mae bod yn hoyw yn dal i gael ei gosbi drwy farwolaeth yn y wlad, ac mae mudwyr o dramor wedi cael eu defnyddio’n barhus fel caethweision.

“Rydyn ni i gyd eisiau i Gaerdydd ddenu buddsoddiad, ond mae modd gwneud hyn yn foesol mewn ffordd sy’n ein gweld ni’n sefyll i fyny’n gryf dros hawliau dynol, democratiaeth a rhyddid.”