Mae Jo Stevens, Aelod Seneddol Llafur Canol Caerdydd, wedi cyhuddo Liz Truss a Rishi Sunak o anwybyddu Cymru yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

Fodd bynnag, dywed fod “record y Ceidwadwyr dros y 12 mlynedd diwethaf yn dweud y cyfan”.

Daw hyn wrth i’r ddau ymgeisydd sy’n weddill yn y ras i olynu Boris Johnson baratoi i gymryd rhan mewn hystingau yng Nghaerdydd heddiw (Awst 3).

“Hoffwn groesawu’r ddau ymgeisydd i Gaerdydd,” meddai Jo Stevens.

“Dyw Liz Truss na Rishi Sunak ddim wedi dweud unrhyw beth am Gymru drwy gydol yr ymgyrch, ond mae record y Ceidwadwyr dros y 12 mlynedd diwethaf yn dweud y cyfan.

“Economi gyda threthi uchel, twf isel a’r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau.

“Dyw Cymru ddim angen Prif Weinidog sydd am barhau ag agenda Boris Johnson.

“A gyda thro pedol ar ôl tro pedol yn eu hymgyrchoedd, mae’n amlwg nad yw’r un ymgeisydd yn fwy dibynadwy na’r Prif Weinidog sy’n gadael.

“Dim ond llywodraeth Lafur dan arweiniad Keir Starmer yn gweithio gyda’n llywodraeth Lafur Cymru dan arweiniad Mark Drakeford all hybu’r economi a darparu’r dechrau newydd sydd ei angen arnom.”

‘Adeiladu Cymru lewyrchus’

Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod y “Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu Rishi Sunak a Liz Truss i Gymru heddiw”.

“Rwy’n edrych ymlaen at eu clywed sut y byddant yn adeiladu Cymru lewyrchus mewn Deyrnas Unedig gref.”

‘Record o’r Blaid Geidwadol yn siarad drosto’i hun’

Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi datgan fod gan y ddau ymgeisydd record hir o fethiant pan ddaw i gyflawni dros Gymru.

“Mae gan Rishi Sunak, Liz Truss a’r Ceidwadwyr record hir o fethu â chyflawni dros Gymru, ac mae hynny’n annhebygol o newid wedi’r ornest arweinyddiaeth hon,” meddai.

“Aberthodd Liz Truss ein ffermwyr Cymreig er mwyn arwyddo’r cytundebau masnach unochrog gydag Awstralia a Seland Newydd.

“Yn y cyfamser fe wnaeth Rishi Sunak, fel Canghellor, fethu â chyflawni’r buddsoddiad seilwaith yr oedd ei angen i hybu economi Cymru, gan gynnwys gwrthod rhoi cyfran deg o gyllid HS2 i ni.

“Yn ogystal â hynny, roedd bron yn gwbl absennol yn yr argyfwng costau byw, gan fethu â chefnogi teuluoedd Cymru, a hodi trethi i’r lefel uchaf mewn degawdau.

“Drwyddi draw mae’r Blaid Geidwadol wedi methu â chadw eu haddewid na fyddai Cymru’n colli’r un geiniog ar ôl Brexit gyda Chymru am golli £772 miliwn rhwng 2021 a 2025.

“Gall Liz Truss a Rishi Sunak wneud yr holl addewidion y maen nhw eisiau heno, ond mae eu record nhw a’r record o’r Blaid Geidwadol yn siarad drosto’i hun, gyda methiant truenus i wireddu eu haddewidion i Gymru dros y deng mlynedd diwethaf, mae hyn yn annhebygol o newid yn fuan.”

Cyfleoedd

Dywed Samuel Kurtz ei fod yn awyddus i glywed “pa fath o gyfleoedd” y bydd Rishi Sunak a Liz Truss yn eu rhoi i bobol y Deyrnas Unedig cyn penderfynu dros bwy y bydd o’n pleidleisio.

“Bydda i’n edrych am arweinydd sy’n mynd i gydweithio gyda ni’r Blaid Geidwadol yng Nghymru, cydweithio gyda Llywodraeth Bae Caerdydd, a gwella’r berthynas sydd gennym ni o ran y gwaith sydd angen ei gyflawni ar y cyd rhwng y ddwy lywodraeth,” meddai wrth golwg360.

“Arweinydd sy’n gryf o ran y Deyrnas Unedig, a hefyd, hoffwn i weld unrhyw un o’r ymgeiswyr yn dod mas a darparu mwy o wybodaeth am eu polisïau economaidd, oherwydd mae’r ddau yn siarad am strategaeth economaidd wahanol.

“Hoffwn i hefyd glywed am ba fath o gyfleoedd y maen nhw eisiau rhoi i bobol ar draws ein gwlad ni.

“Y dywediad Saesneg ydi: ‘Talent is spread equally across the UK, opportunity isn’t’.

“Felly beth maen nhw’n mynd i’w ddatblygu a pha gyfleoedd maen nhw’n mynd i’w rhoi i bobol ifanc ac yn wir pobol o bob oedran i sicrhau bod dyfodol ganddyn nhw mewn swydd dda?

“Dyna hoffwn i glywed gan yr ymgeiswyr.”