Mae cerflun o Mistar Urdd yn eistedd ar fainc wedi cael ei osod hanner ffordd i fyny’r Wyddfa, ger Llyn Llydaw.

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd, mae’r fainc wedi’i gosod yno dros dro a bydd hi’n cael ei symud i leoliadau eraill ledled Cymru dros yr haf.

Mae’r fainc yn cynnig cyfle i unigolion, ffrindiau a theuluoedd eistedd a mwynhau’r olygfa a chael tynnu hunlun gyda Mistar Urdd, fel rhan o gystadleuaeth i ennill y fainc am wythnos ar gyfer ysgol, elusen neu sefydliad.

Dyma fydd y man uchaf, 1,430 troedfedd uwchlaw’r môr, i Mistar Urdd fod ar y ddaear. Er, cyrhaeddodd y gofod yn 1998 pan deithiodd gyda’r gofodwr Dafydd Rhys Williams i’r Orsaf Ofod Ryngwladol.

Taith y fainc

Bydd y fainc hunlun yn aros ar yr Wyddfa tan yr oriau mân ar ddydd Llun, Gorffennaf 18.

Ei lleoliad nesaf fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyn cael lle yn Nhŷ’r Cymru yn yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham.

Bydd y fainc yna’n dychwelyd i Gymru mewn pryd ar gyfer ychydig o ddyddiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn dilyn hynny bydd yn mynd i farchnad dan do newydd Casnewydd.

Ac wedi iddi dreulio wythnos mewn ysgol neu gymuned ym mis Hydref, i gyd-fynd â Jambori’r Canmlwyddiant Cenedlaethol, mi fydd y fainc yn symud i’w chartref parhaol yn un o wersylloedd yr Urdd.

‘Lle perffaith’

Roedd grŵp o blant Ysgol Gynradd Llanrug ger Caernarfon ymysg y rhai cyntaf i gael tynnu eu lluniau gyda Mistar Urdd, wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn taith gerdded ar y Wyddfa gydag un o Swyddogion Gwasanaeth Awyr Agored yr Urdd.

Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod yr Wyddfa’n “lle perffaith” i lansio’r gystadleuaeth hunlun ar fainc Mistar Urdd “oherwydd roeddem eisiau i un eicon Cymreig gwrdd ag un arall”.

“Hefyd roeddem am weithio ar godi ymwybyddiaeth yr Urdd i gynulleidfa newydd, fel rhan o’n hymdrechion i sicrhau dyfodol yr Urdd am ganrif arall,” meddai.

“Hoffwn roi diolch mawr i blant Ysgol Gynradd Llanrug am ymuno â ni ar ein taith gerdded fer ar yr Wyddfa heddiw, ac am fod y cyntaf i gael tynnu eu llun gyda mainc Mistar Urdd.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Barc Cenedlaethol Eryri ac Ystâd Baron Hill am ganiatáu i Mistar Urdd gael cartref dros dro ar yr Wyddfa.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld cynigion pawb ar gyfer cystadleuaeth hunlun Mistar Urdd drwy gydol yr haf. Haf hapus i bawb.”

‘Dysgu am yr ardal’

Dywed Ailish Harker Roberts, Swyddog Pobol Ifanc Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r cyfle i barhau i gydweithio â’r Urdd.

“Mi fydd hyn yn cyfrannu at ddeallusrwydd cenhedlaeth newydd o blant a phobol ifanc o bwysigrwydd yr ardal a’r amgylchedd at eu hiechyd a’u llesiant,” meddai.

“Rydym am sicrhau bod tirweddau bregus Eryri yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a dim ond trwy addysgu a gweithio gyda’n gilydd fydd hyn yn digwydd.

“Mae rhoi’r cyfle i bobol ddringo rhan o’r Wyddfa er mwyn tynnu hunlun gyda Mistar Urdd ar yr un pryd yn mynd i annog mwy i ddysgu am yr hanes, treftadaeth, diwylliant, bywyd gwyllt a thirweddau amrywiol y rhan arbennig yma o’r byd.”

Mae’r fainc wedi cael ei chreu gan gwmni Wild Creations, dylunwyr y ‘bêl ar y wal’ enwog ar Gastell Caerdydd, a gafodd ei chreu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae’r Urdd yn annog pawb i rannu eu hunluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #HunlunMistarUrdd er mwyn cael cyfle i ennill mainc Mistar Urdd am wythnos yn yr hydref.

Mae mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth a lleoliadau’r fainc ar wefan y fainc hunlun.