Bu farw motobeiciwr ar draffordd yr M4 ddoe (Dydd Nadolig) wedi i’w feic fod mewn gwrthdrawiad ger Casnewydd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 6yh neithiwr, rhwng cyffyrdd 24 a 25.

Yn ôl datganiad gan Heddlu Gwent, roedd y beiciwr 39 oed yn dod o Gil-y-coed ac yn gyrru beic Honda.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i’r digwyddiad.