Mae busnes y Queer Emporium yng Nghaerdydd wedi mynegi pryderon am y posibilrwydd o agor bar newydd drws nesaf ar gyfer partïon plu gydol y dydd.

Yn ôl y Queer Emporium, maen nhw’n cynnig gofod diogel i bobol LHDTC+, yn enwedig pobol ifanc o’r gymuned, i gael mynd i gymdeithasu.

Ond mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cais am drwydded gan Blame Gloria, sy’n rhan o’r un grŵp â bar arall o’r enw Tonight Josephine 100 metr i ffwrdd.

Mae ymgyrchwyr yn mynnu bod y drwydded wedi’i rhoi “yn anghyfreithlon ac yn groes i amcanion trwyddedu, yn enwedig gwarchod plant rhag niwed”, gyda’r Queer Emporium hefyd yn cynnig gofod i blant “yn aml o gryn bellter i ffwrdd ac weithiau o amgylchiadau anodd”.

Datganiad y Cyngor

Yn ôl Cyngor Caerdydd, fe wnaeth y sawl a gyflwynodd y cais ar gyfer lleoliad newydd ddarbwyllo is-bwyllgor eu bod nhw am “greu gofod diogel i fenywod fwynhau eu hunain ac na fydden nhw’n eu hannog nhw i yfed yn ormodol”.

Ond mae’r cynghorwyr yn dweud iddyn nhw ddarganfod erbyn hyn fod y lleoliad newydd am gynnig ‘bottomless brunch’ gwerth £35 y sesiwn, gyda gwydrau’n cael eu hail-lenwi dro ar ôl tro heb gost ychwanegol.

“I gael gwerth am arian, byddai hyn yn annog yfed yn ormodol ac yn gyflym, gan gynyddu’r perygl o feddwdod a’r problemau a ddaw yn sgil hynny,” meddai’r is-bwyllgor.

“Mae’n ymddangos ei fod am ddenu partïon plu gyda’r nod o feddwi ac nid yw’n debyg i’r lleoliad a gafodd ei ddisgrifio yn eu gwrandawiad.”

Maen nhw’n dweud bod y cais yn groes i’r amcanion o atal torcyfraith ac annhrefn, diogelwch y cyhoedd ac atal niwsans wrth annog yfed anghyfrifol.

Pryderon pellach

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth nifer o wrthwynebwyr fynnu y byddai’r bar newydd yn peryglu diogelwch y gymuned LHDTC+, yn enwedig plant ar benwythnosau pan fo’r ‘bottomless brunch’ yn cael ei gynnig a phan fo plant i ffwrdd o’r ysgol.

Mae’r ymgyrchwyr yn galw am dynnu’r drwydded yn ôl “ar unwaith, cyn bod angen cymryd camau cyfreithiol pellach”, gan ddweud bod hyn “yn angenrheidiol er mwyn gwarchod grwpiau LHDTC+ sydd ar y cyrion, gan gynnwys y rheiny sy’n aelodau o’r cymunedau traws ac anneuaidd, pobol cwiar o liw, ac ieuenctid LHDTC+ sydd heb ofod arall fel yr Emporium”.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed y Queer Emporium eu bod nhw’n cystadlu “yn erbyn corfforaeth fawr sydd â chyfreithwyr yn Llundain”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi “ceisio cyfaddawd” ond nad yw’n ymddangos yn bosib ar hyn o bryd.

Ymateb y Cyngor

“Mae’r is-bwyllgor trwyddedu wedi clywed y cais hwn ac wedi cydnabod pryderon y sawl a’u cyflwynodd, ond yn teimlo na chafodd tystiolaeth ei chyflwyno y byddai cymeradwyo’r cais yn tanseilio hyrwyddo’r un o’n pedwar o Amcanion Trwyddedu, gan gynnwys Atal Torcyfraith ac Annhrefn,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Mae’r ymgeisydd wedi cytuno i rai amodau ychwanegol a gafodd eu cynnig gan Heddlu’r De fel rhan o’r broses ymgynghori.

“Lle nad oes tystiolaeth wedi’i darparu y bydd Trwydded Safle’n tanseilio’r amcanion trwyddedu, mae’n cael ei gymryd yn ganiataol y dylid cymeradwyo’r cais.

“Os oes tystiolaeth fod safle trwyddedig yn tanseilio’r amcanion trwyddeud, mae Deddf Trwyddedu 2003 yn galluogi unrhyw berson i wneud cais am adolygiad o Drwydded y Safle.”