Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali fawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Iau, Awst 4.

Bydd yn rhan o’r ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’, ac mae disgwyl i gannoedd o bobol orymdeithio o uned Cymdeithas yr Iaith ar y Maes at uned Llywodraeth Cymru.

Bydd cyhoeddiad dyddiol am siaradwyr, cantorion a threfniadau hyd at y rali ymhen 50 diwrnod.

Y prif siaradwyr fydd Walis Wyn George, arbenigwr ym maes tai o Lanrug a chyn-Brif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai Gwynedd, a Meri Huws.

“Mae Deddf Eiddo yn syniad y mae ei amser wedi cyrraedd,” meddai Walis Wyn George.

“Yn wir y mae ei hangen ar frys a rhaid i’n Llywodraeth ei chyflwyno’n ystod y tymor seneddol hwn.

“Gobeithiaf y bydd pobol yn dod o gymunedau ledled Cymru i fynnu bod y llywodraeth yn gweithredu i sicrhau dyfodol i’r cymunedau hyn.”

Meri Huws a siaradwyr eraill

Cafodd Meri Huws ei magu yn Sir Benfro, ond mae hi bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin, lle mae hi’n gadeirydd ar Fforwm Iaith y sir.

Mae ganddi ddegawdau o brofiad o ran polisïau iaith a’r sefyllfa dai yng Nghymru, wedi iddi wasanaethu ar fyrddau nifer o sefydliadau sy’n weithredol yn y meysydd hyn.

Hefyd yn siarad fydd Cai Phillips, myfyriwr fu’n arwain yn yr ymgyrch ar Faes Eisteddfod yr Urdd i gasglu dros 200 o enwau pobol ifanc fydd yn chwilio am gartref mewn blynyddoedd i ddod, ar alwad y Llywodraeth i greu strategaeth tai.

“Mae pawb yn ymwybodol o’r broblem fod pobol ifanc yn methu fforddio prynu na rhentu tai yn eu cymunedau eu hunain, ein bwriad yw symud yr ymgyrch ymlaen i fynnu bod y Llywodraeth yn cyflwyno Deddf Eiddo gyflawn i drefnu tai fel asedau cymdeithasol, nid fel asedau masnachol,” meddai Osian Jones ar ran yr ymgyrch.

“Dim ond fel hyn y gallwn ni sicrhau dyfodol i’n cymunedau.

“Mae’r sefyllfa’n arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd twristaidd, ond mae tai yn broblem ledled Cymru.”