Mae’r newyddion y bydd y cyfyngiadau Covid-19 sy’n weddill yng Nghymru yn cael eu dileu wedi cael ei groesawu.
Fodd bynnag, mae yna rybuddion y dylai pobol barhau i wisgo mygydau, yn ogystal â galwadau am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru.
Bydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 12 o’r gloch heddiw (dydd Gwener, Mai 27), ar drothwy’r adolygiad nesaf ddydd Llun (Mai 30).
Bydd y Llywodraeth yn parhau i gynghori pobol i gymryd rhai camau sylfaenol i warchod eu hiechyd, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw wedi cael eu brechu, a hunanynysu os byddan nhw’n cael symptomau.
Mae’r sefyllfa wedi parhau i wella dros y tair wythnos ddiwethaf, meddai’r Llywodraeth, sy’n dweud bod nifer y bobol yn yr ysbyty â’r feirws yn parhau i ostwng.
Ond maen nhw’n rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd dan bwysau o hyd yn sgil y feirws ac achosion brys.
‘Dydi Covid heb fynd’
Mae Cymdeithas Feddygol y BMA wedi galw ar bobol i barhau i wisgo mygydau.
“Dydi Covid heb fynd,” meddai Dr Phil White ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
“Mae yna rhai achosion o gwmpas o hyd.
“Bydden ni yn cynghori pobol, er bod y gyfraith ddim yna yn eich gorfodi chi i wisgo mwgwd, o ran edrych ar ôl pobol eraill mi ddylech chi wneud.
“Mi fydd hi’n anodd cael pobol i wneud ond os ydach chi’n defnyddio synnwyr cyffredin, mae’n gam eithaf bychan i’w gymryd mewn llefydd cyfyng fel meddygfeydd ac ysbytai a chartrefi henoed.
“Os byddai yna ryw amrywiolyn newydd o Covid yn codi, bydden ni mewn trafferthion os bydd pawb yn mynd o gwmpas heb fygydau yn y llefydd yma.”
Galw drachefn am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru
Er ei fod yn croesawu’r newyddion, mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw drachefn am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru.
“Rwyf wrth fy modd fod rhyddid llawn y Cymry wedi ei adfer o’r diwedd,” meddai.
“Er ei bod wedi teimlo ein bod wedi dysgu byw gyda Covid ers rhai misoedd bellach, roedd cyfyngiadau parhaus ar ein rhyddid o hyd, a dim ond eleni roedd gennym ni gyfyngiadau llym diolch i orymateb Llafur i Omicron.
“Nid yn unig y mae angen i ni gofio pawb a gollodd fywydau ac anwyliaid i gloeon clo a’r feirws ei hun, ond dysgu gwersi’r pandemig am sut y gallwn ni wrthsefyll un arall, ac asesu effaith gosod cyfyngiadau brys llym ar ein poblogaeth.
“Ond ni fydd yr un ohonom byth yn cael yr atebion yr ydym yn eu haeddu heb yr ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru y mae pawb yn y wlad ei eisiau ar wahân (nid yw’n syndod) i’r Llywodraeth Lafur sydd ag ofn craffu.”