Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i recriwtio mwy o staff cyn gwneud newidiadau mawr i’w hysbytai.

Bwriad y bwrdd iechyd yw ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yn nes ymlaen eleni, ond yn ôl uwch-feddygon gallai prinder gweithlu a diffyg gwelyau achosi “problemau difrifol” heb weithredu.

Dan y cynlluniau newydd, byddai gofal heb ei drefnu a gofal acíwt yn cael eu canoli yn Ysbyty Treforys, felly mae’n debygol y bydd nifer y cleifion sy’n cyrraedd y drws ffrynt yn cynyddu’n sylweddol, meddai Coleg Brenhinol y Meddygon.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai diogelwch cleifion a morâl staff ddioddef oni bai bod mwy o staff yn cael eu recriwtio i ddarparu gofal rheng flaen.

Argymhellion

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon, sy’n cefnogi’r cynigion ad-drefnu ar y cyfan, wedi cyhoeddi adroddiad newydd heddiw (dydd Llun, Mai 23) ar ôl ymweld yn rhithiol ag Ysbyty Singleton ac Ysbyty Treforys.

Yn ystod ymweliad y Coleg, roedd adborth y meddygon iau yn gadarnhaol iawn, ond fe wnaethon nhw rybuddio bod llwyth gwaith beichus iawn yn golygu ei bod hi’n amhosibl cyrraedd clinigau cleifion allanol, sy’n rhan o brofiad dysgu i feddygon dan hyfforddiant.

Maen nhw’n argymell y dylai’r bwrdd iechyd lunio a chyhoeddi cynllun ar gyfer y gweithlu wedi’i gyd-gynhyrchu ochr yn ochr â strategaeth recriwtio a chadw staff.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n galw am y canlynol:

  • Mwy o ymgysylltiad clinigol yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel uchel.
  • Buddsoddi mewn datblygu gyrfaoedd meddygon cyswllt a meddygon arbenigol
  • Ymgyrch recriwtio sylweddol cyn unrhyw ad-drefnu
  • Mwy o gefnogaeth ac amser wedi’i neilltuo i feddygon iau gael mynediad at gyfleoedd dysgu ac addysgu

‘Diffyg ymgeiswyr’

Dywed Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, fod yr ymweliad yn un cadarnhaol ond bod effaith prinder staff ar lwyth gwaith, addysgu a rhestrau aros yn rhywbeth gafodd ei godi dro ar ôl tro.

“Rydyn ni’n gwybod fod prinder cenedlaethol o feddygon ymgynghorol; mae penodiadau ar eu lefel isaf erioed oherwydd diffyg ymgeiswyr,” meddai.

“Wrth i Gymru gynyddu nifer y myfyrwyr meddygol dros y pum mlynedd nesaf, rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wella sut maen nhw’n gofalu am feddygon i sicrhau ein bod yn eu cadw yng Nghymru ar gyfer addysg feddygol a hyfforddiant ôl-radd o ansawdd uchel.

“Mae pobol eisiau perthyn. Maen nhw eisiau teimlo’n rhan o sefydliad mwy lle maen nhw’n cael eu cefnogi i ddatblygu eu gyrfa ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu sgiliau.

“Wrth i staff profiadol ddechrau meddwl am ymddeol neu benderfynu gadael oherwydd eu bod wedi’u llethu gan waith dros y ddwy flynedd diwethaf, bydd yn rhaid i ni weithio’n galed i gadw’r bobl hynny yn y Gwasanaeth Iechyd.

“Does dim gobaith y gallwn gyflawni dyheadau rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio Llywodraeth Cymru heb gynllunio’r gweithlu’n briodol yn y tymor hir ar draws pob grŵp proffesiynol.

“Mae angen i ni wybod faint o feddygon, nyrsys a therapyddion y bydd eu hangen arnon ni dros y degawd nesaf, er mwyn hyfforddi’r niferoedd cywir, ac yn bwysicaf oll, eu cadw yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy fuddsoddi yn eu gyrfaoedd a’u lles.”

Buddsoddi mewn rhaglenni recriwtio

Mae Dr Richard Evans, cyfarwyddwr meddygon gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn croesawu’r adroddiad, gan ddweud bod “yr adolygiad cadarnhaol hwn gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn galonogol iawn”.

“Roedd yn bleser croesawu Dr Bod Goddard a Dr Olwen Williams,” meddai.

“Dywedodd y meddygon wrthynt fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn lle gwych ar gyfer gyrfaoedd clinigol, ac ar gyfer dysgu, gweithio a hyfforddi. Ond gwnaethant hefyd dynnu sylw at y pwysau enfawr sydd arnyn nhw a’r angen i recriwtio mwy o staff.

“Rydyn ni’n croesawu eu cefnogaeth i’n cynlluniau i drefnu ein gwasanaethau er mwyn lliniaru’r pwysau hynny.

“Cytunwn hefyd fod recriwtio mwy o staff yn hanfodol i wella ansawdd gofal cleifion a morâl staff. I’r perwyl hynny, rydyn ni’n buddsoddi mewn rhaglenni recriwtio a chadw staff.

“Mae ein staff wedi perfformio’n wych o dan y pwysau dwysaf ac mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi bob amser.

“Mae lles ein staff yn mynd law yn llaw â lles ein cleifion.”