Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod “angen ffrind ar ffermio”, wrth i banel ymgynnull yn ystod Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Drenewydd heddiw (dydd Gwener, Mai 20).

Ar y panel roedd y cadeirydd Fay Jones (Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed), Abi Reader (Dirprwy Lywydd NFU Cymru), James Evans (Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed), Sam Kurtz (Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro), a Pete Robertson o Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru.

Wrth drafod diogelwch bwyd, amlinellodd Abi Read effaith y cynnydd ym mhris gwrtaith ar ffermwyr yng Nghymru, gyda’u cynhyrchiant yn gostwng wrth i brisiau godi’n sylweddol, a dywedodd fod y broblem am barhau.

Yn ôl Pete Robertson, mae’r diwydiant wedi gweld pa mor fregus fu’r gadwyn fwyd yn ystod y pandemig Covid-19, sydd wedi cael effaith sylweddol ar gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig alw am uwchgynhadledd ar ddiogelwch i ddod o hyd i atebion – rhywbeth maen nhw’n dweud mae Llafur wedi gwrthod ei chynnal.

Dywedodd Sam Kurtz fod Parthau Perygl Nitradau yn un o’r prif faterion sydd wedi diffinio’r Senedd hon hyd yn hyn, wrth i Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru “gyflwyno ateb anhylaw, diangen i Gymru gyfan nad yw’n dilyn y wyddoniaeth” – rhywbeth mae’n ei ddisgrifio fel “polisi drwy diktat”.

Fe fu’n galw am wrando ar randdeiliaid ar ffurf ymgynghoriad, gan feirniadu effaith polisïau’r llywodraeth ar iechyd meddwl ffermwyr yng nghefn gwlad.

‘Agenda wrth-ffermio’

Aeth James Evans mor bell ag awgrymu bod yna “agenda wrth-ffermwyr” sy’n cynyddu, er bod “ein ffermwyr yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn cynhyrchu’r cynnyrch amaeth gorau sydd i’w gael”.

Ychwanegodd fod modd cydbwyso pryderon amgylcheddol ac amaethyddol er mwyn canfod y ffordd ymlaen, yn hytrach na “chymryd agwedd elyniaethus at gymunedau ffermio”.

Fe fu’r panel hefyd yn trafod cryfder brand Cymru ar draws y byd, gyda Pete Robertson yn brolio bod modd “ymfalchïo” ynddo.

Bwyd a “grym yr Undeb”

Fe wnaeth James Evans frolio “grym yr Undeb” wrth helpu cig oen, cig eidion a llaeth Cymru i gael eu hallforio i weddill y byd.

Tynnodd Sam Kurtz sylw at dwf y farchnad yn ne-ddwyrain Asia fel ardal dwf ar gyfer cynnyrch Cymreig, lle gall bwyd Cymru fod yn llewyrchus.

Ac fe wnaeth e gau drwy ddweud bod “angen ffrind ar ffermio”.