Wnaeth Boris Johnson ddim cydnabod y sgandal ‘partygate‘ sydd wedi plagio Rhif 10 Downing Street dros y misoedd diwethaf, wrth iddo annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig heddiw (dydd Gwener, Mai 20) yn y Drenewydd ym Mhowys.

Fe ddaeth ymchwiliad Heddlu Llundain i ben yr wythnos hon, gyda chyfanswm o 126 o unigolion yn cael eu dirwyo am fod yn rhan o wyth digwyddiad gwahanol yn Rhif 10.

Roedd disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig – oedd wedi teithio draw i’r Drenewydd mewn hofrennydd – siarad am oddeutu 50 munud yn ôl amserlen y gynhadledd, ond chwarter awr yn unig fuodd Boris Johnson ar y llwyfan.

Treuliodd e ran helaeth o’i araith yn brolio ymateb ei Lywodraeth i bandemig y coronafeirws a’r rhyfel yn Wcráin, yn ogystal â chanu clodydd Brexit.

“Ychydig fisoedd yn ôl, roedd yna ragweld y byddai miliynau o bobol allan o waith o ganlyniad i’r pandemig,” meddai.

“Dw i’n cofio nhw yn Rhif 10 yn dweud y byddai diweithdra yn tua 12 neu 14 y cant, ond yn hytrach, mae diweithdra lawr i 3.7%.

“Dw i’n credu mai’r ffaith ein bod ni wedi cael y penderfyniadau mawr yn gywir yn ystod Covid sydd i’w ddiolch am hynny.

“Ac mae’r Llywodraeth hon yn parhau i wneud penderfyniadau mawr, a’r penderfyniadau anodd er budd y wlad.

“Fe ofynnodd pobol Cymru i ni gyflawni Brexit, ac fe wnaethon ni hynny.

“Roedd angen i ni warchod pobol Prydain rhag Covid, ac fe wnaethon ni hynny drwy ddarparu’r brechlyn yn gyflymach nag unrhyw wlad yn Ewrop.

“A ni oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i anfon cymorth i bobol arwrol Wcráin wrth iddyn nhw wthio Putin yn ôl o giatiau Kyiv.”

Costau byw

Pwnc nad oedd posib i Boris Johnson ei anwybyddu oedd yr argyfwng costau byw.

Echdoe (dydd Mercher, Mai 18), datgelodd ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf – 9% – ers 40 mlynedd.

Ar gyfartaledd mae biliau trydan a nwy wedi codi £700 ac mae costau byw wedi cynyddu yn sgil rhyfel Rwsia yn Wcráin, gyda phrisiau bwyd a thanwydd yn codi.

Ond ar adeg pan fo gwledydd megis Ffrainc wedi cyflwyno cap ar bris ynni, a thra bod ymhell dros 300,000 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn £150 o gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae Canghellor y Deyrnas Unedig Rishi Sunak yn dweud na all y Llywodraeth “amddiffyn pobol yn llwyr” rhag prisiau ynni uwch.

Fodd bynnag, addawodd Boris Johnson y bydd yna fwy o gymorth ar gael “yn y misoedd i ddod”.

“Mae pawb yn gallu gweld beth sy’n digwydd gyda chost tanwydd, cost bwyd a chost ynni,” meddai.

“Ac rydyn ni yn gwybod pa mor anodd yw hi i bobol.

“Rydyn ni’n gweld prisiau yn codi o amgylch y byd, yn America, yn Ewrop ac yn Awstralia.

“Wrth gwrs fe fydd y farchnad yn addasu yn y pendraw a bydd prisiau yn gostwng unwaith eto.

“Ond yn y misoedd i ddod, bydd yn rhaid i ni wneud yr hyn wnaethon ni o’r blaen.

“Rydyn ni’n mynd i ddefnyddio ein grym economaidd i gofleidio a gwarchod cyhoedd Prydain fel y gwnaethon ni yn ystod Covid.

“Cofiwch mai’r rheswm yr oedden ni’n gallu fforddio ffyrlo a’r £400bn o gefnogaeth ariannol oedd oherwydd bod y Ceidwadwyr wedi rhedeg yr economi yn gall a chymedrol.

“A dyna’r rheswm mae ein heconomi ni’n ddigon cryf i barhau i helpu pobol.”