Mae gan Lyn Ebenezer bryderon am ddyfodol cangen banc Barclays yn Aberystwyth, ar ôl derbyn llythyr gan y banc yn sôn am gau cangen Llanbedr Pont Steffan.

Yn ôl y darlledwr ac awdur, sy’n byw ym Mhontrhydfendigaid ac sydd wedi troi at Facebook i fynegi pryder, mae’r penderfyniad i gau’r gangen yn Llanbed yn un “gwarthus”.

“Yn Llanbed mae’r criw staff mwyaf croesawgar a chynorthwyol yng Nghymru gyfan,” meddai.

“Mae cangen Tregaron wedi hen gau a nawr, mae Llanbed i ddilyn.”

Dywed fod y llythyr yn sôn mai Llandeilo neu Gaerfyrddin fydd y gangen agosaf wedi i Lanbed gau.

“Dim sôn am Aber,” meddai wedyn.

“Ydi hwnnw hefyd ar y rhestr cau?”

Yn ôl Wyn Maskell, ficer plwyf Felinfach, mae “staff cyfeillgar iawn yn y banc”, ac mae’r cyhoeddiad ei fod am gau yn newyddion “trist iawn”.

Yn ôl Lynda Thomas, un arall o’r trigolion lleol, mae’r cyhoeddiad yn un “diflas dros ben” ac yn “sefyllfa ddiflas i’r dre’ a’r cwsmeriaid a’r twll yn y wal yn cau”, gan ychwanegu mai “colled fawr oedd NatWest heb sôn am hwn eto”.

Yn ôl Delyth Davies, mae’n “hoelen arall yng nghoffin y dre”.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Fanc Barclays.