Fe fydd 36,000 o bobl yn gweithio ddydd Nadolig yng Nghymru eleni.

Mae hynny’n golygu 1 ymhob 40 o bobl, ac mae TUC Cymru, undeb dros weithwyr yng Nghymru, yn galw ar bobl i feddwl am y gweithwyr hynny dros yr ŵyl.

“Mae nifer o’r rheiny fydd yn gweithio ar y 25ain yn derbyn tâl isel, yn enwedig mewn sectorau fel ysbytai a gofal cymdeithasol,” meddai Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Fe ychwanegodd y “bydd nifer o staff ymrwymedig y GIG yng Nghymru yn rhoi o’u hamser i ofalu am gleifion,” a’r rhai mwyaf tebygol o fod yn gweithio dros yr ŵyl yw gofalwyr a staff meddygol.

 

Meddygon, cogyddion a swyddogion yr heddlu

Yn y DU, fe fydd 89,000 o nyrsys, 46,000 o nyrsys cynorthwyol a 17,000 o feddygon yn gweithio ddydd Nadolig.

Fe fydd hefyd tua 42,000 o gogyddion, 22,000 o gynorthwywyr cegin a 15,000 o staff gweini, gyda 13,000 yn gweithio mewn gwestai, tafarndai a thai bwyta.

Amcangyfrifir y bydd 22,000 o swyddogion yr heddlu a 28,000 o weithwyr diogelwch yn eu gwaith ddydd Nadolig.

Ac wrth gwrs, bydd gwasanaethau dydd Nadolig yn golygu y bydd 20,000 o glerigwyr, gweinidogion ac offeiriaid wrth eu gwaith.

“Mae dydd Nadolig yn ddiwrnod arbennig y mae miliynau ohonom yn ei dreulio gyda’n hanwyliaid,” meddai Martin Mansfield.

“Gadewch inni feddwl am y rheiny sy’n cynnal y gwasanaethau ry’n ni’n dibynnu arnyn nhw dros gyfnod y Nadolig.”