Stephen Bladen
Mae dyn o Ddoc Penfro  wedi cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar am dreisio dwy ferch ifanc ac ymosod yn rhywiol ar dair merch arall.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw, dywedodd y Barnwr Keith Thomas fod Stephen Bladen yn “ddyn peryglus”.

Cafwyd y dyn 55 oed yn euog o 33 o droseddau rhyw gan gynnwys treisio merch pan oedd hi’n saith oed, a threisio merch arall cyn ei bod yn 11.

Roedd hefyd wedi’i gael yn euog o geisio treisio merch pan oedd ond yn bum mlwydd oed a meddu ar ddelweddau anweddus o blant.

Yn ôl ei ddioddefwyr, roedd wedi cynnig losin i’r plant ac wedi bygwth niweidio eu hanifeiliaid anwes er mwyn pwyso arnyn nhw i gydweithredu.

Roedd ei ymosodiadau wedi dechrau mor bell yn ôl â chanol yr 1980au.

Bydd yn treulio o leiaf 14 mlynedd yn y carchar a gallai gael ei ail-alw yn ôl i’r carchar am hyd at saith mlynedd ar ôl ei ryddhau, hyd yn oed os bydd yn treulio’r cyfnod llawn dan glo.