Y Gweinidog Iechyd
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd dynion hoyw o dan 45 oed yn cael cynnig brechiad HPV yn erbyn rhai mathau o ganser.
Ers 2008 bu merched yn eu harddegau wedi derbyn y brechiad HPV, ac mae’n diogelu pobl rhag mathau o’r Feirws Papiloma Dynol (HPV).
Mae’n gysylltiedig â chanser ceg y groth, ond mae tystiolaeth yn dangos y gallai brechu rhag HPV gynnig amddiffyniad rhag mathau o ganser sy’n fwy cyffredin ymhlith dynion hoyw hefyd.
Bydd y rhaglen wedi’i hanelu at ddynion 16 – 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion ac yn mynd i glinigau iechyd rhyw arbenigol.
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi fy mod i wedi cymeradwyo cyflwyno rhaglen newydd i roi brechiad HPV i ddynion hyd at 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion eraill,” meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd.
Argymhellion eraill
Fe roddodd y cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gyngor annibynnol i lywodraethau’r DU gan argymell cyflwyno rhaglen o’r fath.
Fe wnaethon nhw argymell y dylid cynnig y brechiad i bobl eraill sydd mewn perygl, gan gynnwys dynion dros 45 oed sy’n cael rhyw gyda dynion, gweithwyr rhyw a dynion a menywod HIV positif fesul achos unigol.
Mae’r cydbwyllgor yn parhau i ystyried a ddylid cynnig y brechiad HPV i bob bachgen yn ei arddegau, a disgwylir eu hargymhelliad erbyn 2017.
Fe ddywedodd Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn “ystyried yn ofalus sut i gyflawni’r rhaglen hon, ac yn gwneud cyhoeddiad pellach yn y man.”
‘Croesawu’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw, gyda’r llefarydd Iechyd, Darren Millar yn dweud: “rwyf wrth fy modd i glywed am y cynnydd sydd wedi’i wneud wrth gyflwyno’r rhaglen frechu hon.”
“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio’n galed i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y rhaglen imiwneiddio i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno mor effeithlon ac effeithiol â phosib.”