Mae cwmni bragu o Drefaldwyn, Powys wedi mynd â’i gwrw i Sgandinafia, gan greu cysylltiadau â’r Ffindir, Sweden a’r Iseldiroedd.

Fe wnaeth bragdy Monty’s ymweld â’r gwledydd fel rhan o raglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru, ac mae bellach wedi cael archeb newydd i allforio ei gwrw i Ewrop.

Mae gan y cwmni ganolfan ymwelwyr newydd sydd ‘ar drothwy Clawdd Offa’ lle y gall pobol brynu gwahanol fathau o gwrw ‘go iawn’.

Enw’r ganolfan yw The Cottage a dyma yw’r ‘cam cyntaf’ i greu atyniad ar gyfer pobol ‘cwrw go iawn’, a fydd hefyd yn cynnig teithiau o amgylch y bragdy.

“Rhoddodd yr ymweliad â Sgandinafia gyfleoedd newydd i ni ddatblygu cysylltiadau busnes newydd a rhoddodd syniadau i ni am sut i ddatblygu’r ganolfan,” meddai Cyfarwyddwr Gwerthu Monty’s, Russ Honeyman.

“Gobeithiwn y gallwn helpu trwy roi ansawdd rhagorol cwrw o Gymru ar fap y byd.”

Mae’r cwmni yn bragu chwe chwrw sydd ar gael drwy’r flwyddyn, saith tymhorol, a dewis o gwrw casgen arbennig.