Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £50m i annog pobol i gefnu ar eu ceir a dechrau seiclo.

Cafodd yr arian ei gyhoeddi gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn ystod ymweliad ag elusen Pedal Power yng Nghaerdydd, a fydd yn elwa ar yr arian, dywedodd Lee Waters y byddai’r arian yn helpu i agor llwybrau a chyfleusterau seiclo newydd ledled Cymru.

Yn rhan o’r buddsoddiad, budd pob awdurdod lleol yn derbyn o leiaf £500,000 a bydd arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar sail ceisiadau.

Fel rhan o gynlluniau peilot e-feics Llywodraeth Cymru, derbyniodd Pedal Power £210,000 ar gyfer prosiect sy’n anelu i annog mwy o bobol i seiclo drwy gynnig e-feics iddyn nhw.

Mae’r elusen wedi ehangu eu fflyd o ganlyniad i’r buddsoddiad, ac maen nhw’n annog defnyddwyr i seiclo mwy.

“Mae beicio yn ffordd wych i bobl o bob oedran a gallu gael hwyl, bod yn fwy annibynnol a mwynhau ymdeimlad o ryddid – rhywbeth sydd wedi bod yn llinell fywyd ar gyfer llawer yn ystod y pandemig,” meddai Siân Donovan, Cyfarwyddwr Pedal Power.

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Bydd yn ein helpu i barhau i gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobol rhag beicio, i sicrhau bod beicio’n gallu bod yn wirioneddol hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.”

Dau sy’n elwa ar gefnogaeth Pedal Power

Dau sydd eisoes yn elwa ar gefnogaeth Pedal Power yw Jeff Mayle a Jacqui McQuillan.

Yn 17 oed, cafodd Jeff Mayle ei daro’n wael wrth sglefrfryddio yn 1992, ac fe gwympodd i’r llawr gan daro’i ben ar y pafin.

Er ei fod e wedi gwella, mae’n dal i ddioddef o wendid ar un ochr ei gorff ac ar ei leferydd, ac fe fu’n manteisio ar gyfleusterau Pedal Power ers 2013 i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith ym Mhrifysgol De Cymru, lle mae’n beiriannydd technoleg gwybodaeth.

Fe fu’n defnyddio beics yr elusen, yn gyntaf gyda’i ofalwr ac wedyn ar ei ben ei hun ar feic tair olwyn ac e-feic tair olwyn newydd sbon sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bu Jacqui McQuillan yn gweithio yn swyddfa Pedal Power, a mentrodd hi i’r byd seiclo’n hwyr, a hynny er mwyn gwella’i hyder wrth gyfarfod â phobol mewn grŵp cymdeithasol, y Wednesday Warriors.

Mae gan sawl aelod o’r grŵp broblemau wahanol gyflyrau neu salwch, ond mae seiclo’n dod â nhw ynghyd i siarad, i wella’u hyder ac i’w cadw nhw’n heini.

Ers ymuno â’r grŵp, mae hyder Jacqui wedi gwella’n sylweddol, ac mae hi am brynu e-feic iddi hi ei hun gan ddefnyddio’r arian gan Lywodraeth Cymru.

Cynllun peilot

Pwrpas cynllun peilot e-feics Llywodraeth Cymru yw archwilio ffyrdd fforddiadwy o wella symudedd pobol, gwella mynediad at ffyrdd cynaliadwy ac iach o deithio, ac annog pobol i leihau faint maen nhw’n defnyddio’u ceir er mwyn teithio’n fwy cynaliadwy.

Mae cynlluniau peilot ar y gweill yn Abertawe, y Rhyl, Aberystwyth, Y Drenewydd, Y Barri a Chaerdydd.

Mae prosiect Pedal Power yn un o nifer o brosiectau sy’n rhan o gynlluniau peilot y llywodraeth.

Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £135m ar gael i’w fuddsoddi mewn cynlluniau a rhaglenni i annog teithio’n iach a heini ledled Cymru.

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac yn rhan o’n hymrwymiad i wneud beicio’n haws, fel y gall pobol wneud llai o deithiau mewn ceir a theithio mewn ffordd sy’n well ar gyfer ein planed,” meddai Lee Waters.

“Mae annog pobol i gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio eu ceir yn her fawr inni, ond mae’n rhywbeth mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag ef er mwyn inni gyrraedd ein targed i fod yn garbon sero-net erbyn.

“Mae angen inni sicrhau bod gennym ni’r seilwaith a’r llwybrau cywir ar waith fel y gall pobol ddewis beicio ar gyfer eu siwrneiau bob dydd – mae angen inni sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.”