Mae dau aelod newydd, Naomi Luhde-Thompson a Delyth Lloyd, wedi cael eu penodi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn ôl Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, mae’r penderfyniad wedi’i wneud yn rhannol er mwyn hyrwyddo twristiaeth fwy cynaliadwy.

Mae’r ddau benodiad ar gyfer pedair blynedd, tan 2026.

Fel rhan o’u rôl, byddan nhw’n helpu i arwain gwaith y Parc Cenedlaethol, gan gefnogi ei arweinyddiaeth a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Bydd y ddwy yn derbyn tâl o £4,738 y flwyddyn, gan adlewyrchu ymrwymiad amser o 44 diwrnod y flwyddyn.

Mae’r penodiadau wedi cael eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

‘Hyrwyddo twristiaeth fwy cynaliadwy’

“Mae Naomi a Delyth yn dod â thoreth o brofiad, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw,” meddai Julie James.

“Mae’r rôl mae ein Hawdurdodau Parc Cenedlaethol yn ei chwarae bellach yn bwysicach nac erioed wrth fynd i’r afael â materion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, fel lliniaru effeithiau newid hinsawdd, datgarboneiddio, atal colli bioamrywiaeth a hyrwyddo twristiaeth fwy cynaliadwy.

“Mae’n hanfodol bod y sefydliadau hyn yn cael eu rheoli’n dda, a’n bod yn penodi aelodau sydd ag amrediad o sgiliau a phrofiad i’w helpu i wireddu’r uchelgeisiau hynny.”