Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain beic modur ar yr A55 neithiwr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd yn unig tua 7yh nos Lun, 14 Rhagfyr ar yr A55 tua’r dwyrain rhwng cyffordd 19 a 20, ger Mochdre.

Cafodd y beiciwr modur, 43 oed, sy’n lleol i’r ardal, ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Mae wedi’i drosglwyddo bellach i’r ysbyty yn Stoke ac, yn ôl adroddiadau, mae ganddo anafiadau difrifol sy’n peryglu’i fywyd.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y beic modur yn teithio ar hyd yr A55 cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ei hun i gysylltu â Swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd, Llanelwy drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod S190760.