Mae Heddlu Gogledd Cymru yn adrodd bod corff dynes wedi’i ddarganfod y bore yma ar lwybr Mawddach yn ne Gwynedd.
Am tua 10:20yb ddydd Mawrth, hysbyswyd Heddlu Gogledd Cymru bod corff dynes wedi’i ddarganfod dros y ffordd i’r llwybr beicio rhwng Pwll Penmaen a’r Bermo.
Credir bod y ddynes yn ei 30au, ac fe gadarnhaodd yr heddlu ei bod wedi marw yn y lleoliad.
Mae swyddogion yn parhau â’u hymchwiliadau i geisio’i hadnabod.
Nid yw ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd, ac mae Crwner EM Gogledd Orllewin Cymru wedi’i hysbysu.