Mae Golwg360 ar ddeall bod newyddiadurwyr o bapur newydd y Daily Post wedi pleidleisio o blaid cynnal streic.

Mae’n debyg bod staff yn anhapus â’r drefn newydd mae Trinity Mirror wedi’i gyflwyno’n ddiweddar sydd wedi golygu gosod targedau unigol i bob newyddiadurwr ar gyfer faint o bobl sydd yn darllen straeon ar y we.

Yn ôl cofnodion sydd wedi cael eu gweld gan Golwg360 fe bleidleisiodd 16 o newyddiadurwyr y papur o blaid y streic gydag un yn unig yn gwrthwynebu.

Mae’r undeb sy’n cynrychioli newyddiadurwyr, yr NUJ, wedi cadarnhau bod pum papur newydd arall yn stabl Trinity Mirror hefyd wedi neu’n bwriadu cynnal pleidlais debyg dros y dyddiau nesaf.

‘Poeni am safon’

Dywedodd llefarydd ar ran yr NUJ eu bod nhw a newyddiadurwyr yn bryderus ynglŷn â’r targedau digidol a bod gormod o bwyslais yn cael eu rhoi arnyn nhw.

Ychwanegodd yr undeb nad yw defnyddio targedau pendant o’r fath yn mesur safon y newyddiaduraeth, a’i fod yn gallu arwain at straeon oedd yn denu cliciau ond o safon isel.

Cafodd pryderon tebyg eu codi gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr pan gafodd y newidiadau eu cyflwyno yn gynharach eleni.

Mae disgwyl i’r undeb a’r newyddiadurwyr nawr gynnal trafodaethau â Trinity Mirror er mwyn gweld beth fydd y cam nesaf.

“Mae pryderon bod pobl yn cael eu barnu yn llwyr ar sail y ffigyrau yma, yn enwedig yr effaith y gallai hynny gael ar newyddiaduraeth a safon newyddiaduraeth os ydych chi’n cael eich gyrru gan y targedau yna’n unig,” meddai Jane Kennedy, is-drefnydd y Gogledd a Chanolbarth yr NUJ.

“Weithiau fe fydd rhai straeon yn gwneud yn dda waeth pa mor dda yw’r newyddiadurwr sy’n ei sgwennu, ac fe fyddai rhai pethau sydd yn gwneud yn dda [o ran denu traffig ar-lein] ddim yn cael ei ystyried yn newyddiaduraeth o safon.”

‘Rhwystredig’

Mae Trinity Mirror fodd bynnag wedi amddiffyn eu strategaeth a mynegi “rhwystredigaeth” â’r NUJ am benderfynu dilyn trywydd streicio.

“Mae papurau rhanbarthol Trinity Mirror wedi arwain twf cynulleidfa ddigidol y diwydiant dros y 18 mis diwethaf, ond mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i dyfu’r cynulleidfaoedd hynny yn gryf er mwyn adeiladu busnes cynaliadwy,” meddai Cyfarwyddwr Golygyddol Rhanbarthau Trinity Mirror, Neil Benson.

“Yr unig ffordd allwn ni wneud hynny yw wrth gyhoeddi cynnwys mae ein cynulleidfa eisiau darllen, pan maen nhw eisiau ei ddarllen ac yn y ffordd maen nhw eisiau ei ddarllen.

“Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i bawb ganolbwyntio ar dargedau cynulleidfa a defnyddio’r dulliau dadansoddi sydd gennym ni hyd yn oed yn well, er mwyn sicrhau bod pob darn o gynnwys a phob newyddiadurwr yn chwarae eu rhan yn llawn.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i gynnwys ein staff drwy gydol y broses ac wedi cael ymateb positif oddi wrth y mwyafrif. Rydyn ni hefyd wedi trafod yn helaeth â’r NUJ, gan dawelu eu meddyliau pan fo ganddynt bryderon.

“Mae’n rhwystredig felly gweld eu bod nhw’n gweld hyn fel yr unig ffordd ymlaen, pan rydyn ni’n credu bod ein cynlluniau ni’n sicrhau dyfodol ar gyfer cyfryngau rhanbarthol.”