Ysgol Tanygrisiau
Mae ymgyrchwyr wedi cynnal protest tu allan i gartref troseddwr rhyw ym mhentref Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog heddiw.
Mae nifer o drigolion lleol yn anfodlon bod Philip Nigel Hewitt, 70 oed, yn byw o fewn 10 llath i’r ysgol gynradd.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug wythnos ddiwethaf fe blediodd Philip Hewitt yn euog o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant. Roedd y troseddau wedi’u cyflawni rhwng 2008 a mis Tachwedd y llynedd.
Fe gafodd Hewitt ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae wedi dychwelyd i’w gartref yn Y Llythyrdy yn Nhanygrisiau tra’n aros i gael ei ddedfrydu. Bydd yn ailymddangos gerbron y llys ar gyfer ei ddedfryd ym mis Ionawr 2016.
On, mae ymgyrchwyr lleol yn “anhapus” ei fod yn cael byw mor agos at blant yr ysgol gynradd, ac yn “anfodlon nad yw rhieni wedi cael gwybod am y datblygiadau.”
‘Plant yn pasio’i dŷ ar y ffordd i’r ysgol’
Un a fu’n trefnu’r brotest heddiw yw’r awdur Dewi Prysor, sy’n rhiant i blentyn yn ysgol gynradd Tanygrisiau.
“Roeddan ni fel rhieni isio cynnal protest weledol a swnllyd,” esboniodd gan ddweud fod rhwng 30 a 40 o bobl wedi ymgynnull tu allan i’r tŷ gan guro drymiau a gweiddi ar y dyn i ddod allan.
“Dylai amodau ei fechnïaeth yn bendant ei wahardd rhag byw 10 llath o’r ysgol,” meddai Dewi Prysor.
“Mae plant yn pasio’i dŷ ar y ffordd i’r ysgol ac ar eu ffordd adref, ac mae plant yr ysgol uwchradd yn dal y bws o du allan i’w dŷ.”
Esboniodd yr awdur fod y rhieni a’r gymuned leol am iddo gael ei symud, “ac os nad ydi o’n mynd o’i wirfodd, da ni am i’r awdurdodau ei symud o.”
Fe ychwanegodd nad oedd rhieni, athrawon nag aelodau o’r gymuned gyfagos wedi’u hysbysu ei fod yn cael dychwelyd i’w gartref ar fechnïaeth.
“Dydy o ddim yn deg ar y plant, y rhieni, athrawon a staff yr ysgol na’r cymdogion,” meddai.
Hon oedd y brotest gyntaf iddyn nhw ei chynnal, ond fe esboniodd Dewi Prysor y byddan nhw’n parhau i brotestio yn y dyfodol.