Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo rhoi caniatâd cynllunio i gais dadleuol i godi tai yn yr Hendy ger Llanelli.
Roedd cwmni Persimmon wedi gwneud cais i godi 91 o dai ar safle ger Heol Llwynbedw.
Fe wnaeth 15 bleidleisio o blaid y cynllun, un yn erbyn ac un wedi ymatal.
Bu gwrthwynebiad lleol i’r cynllun, gyda rhai yn dweud y bydd yn gwaethygu problemau traffig yr ardal ac yn achosi i dŵr redeg i dai eraill yn yr ardal.
‘Lleihau’r risg’
“Dydy’r cyfarfod ddim wedi mynd o’n plaid ni ond dyna ‘ny, dyna beth yw democratiaeth,” meddai cynghorydd Yr Hendy, Gareth Thomas, sy’n gwrthwynebu’r cynllun.
Yn ôl Gareth Thomas, mae Perismmon wedi ‘tanbrisio’r perygl’ sydd o godi tai ar y safle gan nad yw’r ‘safle yn ddiogel’.
“Bydd rhaid i ni sicrhau nawr bod popeth yn cael ei wneud i leihau’r risg o unrhyw berygl, fel gwella’r ffordd ac yn y blaen,” meddai.