Mae Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality wedi datgelu logo newydd Stadiwm y Mileniwm a fydd yn cael ei ail-enwi’n Stadiwm y Principality o fis Ionawr ymlaen.

Mae’r logo newydd yn nodi hawliau enwi’r stadiwm genedlaethol fel rhan o gytundeb rhwng yr undeb a’r Principality dros y 10 mlynedd nesaf.

Yn dilyn creu’r bartneriaeth rhwng y ddau gorff, mae gwaith wedi cael ei wneud i greu brand newydd ar gyfer y stadiwm.

Cafodd y logo ei ddewis gan gynrychiolwyr o gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys cyn-gapten rhyngwladol Cymru, Ryan Jones oedd ymhlith y panel o bleidleiswyr.

‘Adlewyrchu ymrwymiad i’r iaith Gymraeg’

Mae’r logo newydd wedi’i ysbrydoli gan bensaernïaeth y lleoliad; pedwar pigyn, tu blaen crwm a tho sy’n gallu cael ei godi.

Dywedodd y sefydliadau bod eu brand i gyd yn ddwyieithog a bod hynny’n ‘adlewyrchu ymrwymiad y ddau i’r iaith Gymraeg’.

Mae’r stadiwm, oedd dan yr enw Stadiwm y Mileniwm tan yn ddiweddar wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 1999, ac mae’n dangos sawl twrnament chwaraeon rhyngwladol, yn ogystal â pherfformiadau gan sêr byd-eang.

Bydd arwyddion allanol y stadiwm yn cael ei ddatgelu’n swyddogol i’r cyhoedd ar ddydd Gwener, 22 Ionawr, cyn iddo gynnal ei ddigwyddiad mawr cyntaf – gêm y Chwe Gwlad gyda’r Alban ddydd Sadwrn, 13 Chwefror.

“Bydd y logo yn cynrychioli rygbi Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’r genedl ar lwyfan y byd am y 10 mlynedd nesaf,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips.

“Y stadiwm yw balchder Cymru, yn lleoliad chwaraeon ac adloniant o’r radd flaenaf. Mae’r logo yn defnyddio ei nodweddion pensaernïol unigryw mewn ffurf arddulliedig i gynrychioli a dathlu balchder ac angerdd Cymdeithas Adeiladu’r Principality ac Undeb Rygbi Cymru.”