Aaron Ramsey (chwith) yn dathlu cyrraedd Ewro 2016 gyda Gareth Bale ac Owain Fon Williams (llun: CBDC)
Mae Aaron Ramsey wedi cyfaddef ei fod yn falch y bydd Cymru’n wynebu Lloegr yn Ewro 2016 – er bod rhai o’i gyd-chwaraewyr yn Arsenal eisoes wedi bod yn tynnu ei goes am y gêm.
Cafodd Cymru wybod dros y penwythnos y byddan nhw’n herio Slofacia, Lloegr a Rwsia ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc yr haf nesaf.
Ac er bod cefnogwyr Cymru wedi ymateb â chymysgedd o gyffro a siom eu bod yn chwarae’r hen elyn, roedd chwaraewr canol cae Arsenal yn ddigon hapus â’r grŵp.
‘Aros i weld’
Dywedodd Ramsey y byddai’r ornest yn gyfle i brofi cymaint oedd Cymru wedi gwella ers iddyn nhw golli i’r Saeson y tro diwethaf iddyn nhw wynebu’i gilydd yn 2011.
“Dw i’n siŵr y bydd hi’n lot agosach y tro yma – fe allai hi fynd naill ffordd,” meddai seren Cymru.
“I fod yn deg, roeddwn i eisiau chwarae Lloegr. Fe ges i ‘chydig o lwc. Dw i’n meddwl y bydd hi’n gêm wych i bawb sydd ynddi gan y bydd hi’n cael ei gweld fel gêm ‘ddarbi’.
“Maen nhw [Theo Walcott a Kieran Gibbs, y Saeson sydd yn gyd-chwaraewyr i Ramsey gyda’i glwb] wedi bod yn tynnu fy nghoes i’n barod.
“Ond dw i’n aros yn ddistaw a gweld beth fydd yn digwydd ar y diwrnod.”
Mynd yn bellach
Er mai hon fydd y tro cyntaf ers 1958 i Gymru gystadlu mewn rowndiau terfynol cystadleuaeth bêl-droed rhyngwladol, mae Ramsey’n hyderus y gallan nhw fwynhau’r profiad yn ogystal â gwneud eu marc.
“Roedd e’n gyffrous iawn,” meddai’r chwaraewr 24 oed wrth siarad am ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr.
“Rydw i wir yn edrych ymlaen, mae’n newydd i’r tîm fod yma. Fe fydd e’n achlysur arbennig i ni, fe wnawn ni fwynhau pob munud.
“Yn amlwg mae gêm ‘fach’ yn y canol. Ond tra’n bod ni yno i fwynhau, fe fyddwn ni hefyd eisiau cymryd pethau o ddifrif a chael allan o’r grŵp.”