Er bod yna “nifer o gynlluniau cyffrous newydd” yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ehangu capasiti addysg Gymraeg, “nid da lle gellir gwell”, meddai mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Mae Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gweithredol y mudiad, yn croesawu’r cyhoeddiad a’r 11 prosiect i hybu twf yr iaith, ond mae yna lawer iawn mwy o brosiectau sy’n deilwng o arian, meddai.
Yn ôl y mudiad, mae’r cyhoeddiad yn dangos yr angen i sefydlu ysgolion Cymraeg newydd mewn ardaloedd daearyddol newydd.
Mae’r cynlluniau mewn naw awdurdod lleol dros Gymru yn cynnwys sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mwcle / Mynydd Isa yn Sir y Fflint, ac ysgol ‘egin’ Gymraeg ym Mhorthcawl.
‘Ardaloedd daearyddol newydd’
Mae angen llawer mwy o fuddsoddiad na £30m, meddai Elin Maher wrth golwg360, er bod mudiad RhAG yn croesawu’r cynlluniau.
“Mae yna nifer o gynlluniau cyffrous newydd, a dyna mae RhAG wedi bod yn gofyn wrth bod awdurdodau lleol yn llunio eu cynlluniau diweddar – bod angen i ni weld darpariaethau mewn ardaloedd daearyddol newydd,” meddai.
“Fan yna, bydden ni’n benodol yn sôn am yr ysgol Gymraeg newydd ym Mwcle, Sir y Fflint, ysgol newydd ym Mhorthcawl.
“Mae sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn araf iawn yn datblygu addysg Gymraeg yn ardal Porthcawl, felly rydyn ni’n croesawu hynny â breichiau agored.”
Mae’r mudiad yn croesawu’r cynlluniau ar gyfer cyllido lleoedd ychwanegol yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn sgil y cynnydd yn y galw am lefydd yno.
Dywed Elin Maher eu bod nhw’n “falch o weld bod yr arian yn cael ei ailsefydlu yn y canolfannau iaith yng Ngwynedd, achos roedd e’n ofnadwy bod y cyllid hwnnw wedi dod i ben”.
‘Nid da lle gellir gwell’
Ond mae Elin Maher hefyd yn annog Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, i chwilio am fwy o arian fel bod “mwy o’r gwaith da” yn gallu cael ei wneud dros y blynyddoedd nesaf.
“Nid da lle gellir gwell, i ddefnyddio’r hen derm addysgol… rydyn ni’n ymwybodol iawn bod yna lot mwy o brosiectau allan yna fyddai’n deilwng iawn o gyllid pellach hefyd,” meddai.
“Beth rydyn ni’n ei weld fan hyn yw’r angen am ysgolion newydd mewn ardaloedd daearyddol newydd.
“Mae angen sicrhau bod yna gyfle pellach, ac anogaeth, i siroedd.
“Yn ein hymatebion ni i gynlluniau strategol sydd wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, un o’n prif negeseuon ni oedd bod addysg Gymraeg yn dal i fod yn anhygyrch i’r rhan fwyaf o’n teuluoedd ni oherwydd elfennau daearyddol, ac mae yna wirioneddol angen i siroedd ailfeddwl ac ailystyried addysg Gymraeg a rôl ac arwyddocâd addysg Gymraeg.
“Mae’n boendod o hyd i ni glywed bod addysg Gymraeg yn cael ei roi ar y cyrion yn hytrach na bod yn rhan greiddiol o gynllunio darpariaeth addysg bob sir.
“Mae yna lai o ysgolion Cymraeg mewn siroedd ar draws Cymru, mae plant yn gorfod teithio’n bellach i gael addysg Gymraeg, felly mae’n rhaid i ni edrych ar sefydlu ysgolion o fewn cymunedau fel bod y dewis yna yn gydradd a chytbwys i bob teulu yng Nghymru fel bod addysg Gymraeg yn rhywbeth arferol, normal o fewn cymuned.
“Gyda hynny, y rhain yw’r prosiectau cyfalaf a fan hyn rydyn ni’n gweld ysgolion. Rydyn ni’n disgwyl gweld yr elfen blynyddoedd cynnar nawr.
“Roedd yna grant ar gyfer blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg hefyd, mae angen hynny eto nawr fel ein bod ni’n sicrhau ein bod ni’n bwydo’r cynlluniau newydd cyffrous yma.”
‘Angen strategaeth hirdymor’
Er bod y prosiectau yn “werthfawr”, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu addysg Gymraeg yn hytrach na chynlluniau unigol.
“Mae pob un o’r cynlluniau yma yn werthfawr – wrth gwrs eu bod nhw – ond mae cynlluniau o’r math yma yn golygu bod ysgolion yn gorfod treulio’u hamser yn ceisio cyfiawnhau gwario arian ar addysg Gymraeg trwy geisiadau grant,” meddai Toni Shiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Er gwaetha’r bwriadau da, os ydy Llywodraeth Cymru o ddifri am sicrhau bod pob un yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg, nid cynlluniau o’r math yma sydd eu hangen ond strategaeth hirdymor.
“Rydyn ni wedi rhannu strategaeth gyda’r gweinidog ar sut i ddatblygu gallu ieithyddol y gweithlu addysg gyda buddsoddiad o £5m y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.
“Byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio ar raglenni hyfforddiant mewn swydd cynhwysfawr fyddai’n cynnwys cymorthyddion dosbarth, staff ategol a phenaethiaid yn ogystal ag athrawon; a chynlluniau i gefnogi rhieni a disgyblion o gefndir cymysg neu ddi-gymraeg.
“Mae bron i ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad oedd yn argymell dileu dysgu Cymraeg ail iaith a chreu un continwwm Cymraeg ar frys ond eto mae 80% o blant Cymru yn gadael yr ysgol yn methu defnyddio’r Gymraeg o hyd.
“Byddai’r strategaeth rydyn ni’n ei chynnig yn gallu newid hynny a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o’r Gymraeg.”