Wynne Evans
Fe fydd sengl elusennol S4C eleni yn cael ei pherfformio gan y tenor Wynne Evans ynghyd â chôr o weithwyr o wahanol gwmnïau ledled Cymru.

Fe fydd modd lawrlwytho’r sengl o heddiw ymlaen ar iTunes, Amazon a Google Plus gyda’r elw’n mynd tuag at yr elusen gancr, Tenovus.

Enw’r gân yw ‘Cân Heb ei Chanu’ ac mae wedi’i chyfansoddi ar y cyd rhwng Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.

Y tenor o Gaerfyrddin, Wynne Evans, fydd yn ei chanu gyda chyfraniad gan gôr sydd newydd ei ffurfio, sef criw o weithwyr o dri chwmni yng Nghymru, sef Trenau Arriva Cymru, Edwards Coaches a Dŵr Cymru.

’Cân sy’n cyffwrdd’

Ffurfiwyd y côr fel rhan o gyfres newydd S4C, Wynne ar Waith, fydd i’w gweld nos Fercher, Ionawr 13, lle mae’r tenor yn ceisio dod â chriw o weithwyr nad sydd wedi canu nodyn o’r blaen ynghyd, a’u trawsnewid yn gôr.

“Dyma un o’r pethau mwyaf heriol dw i wedi ei wneud yn fy mywyd, ond dw i wedi mwynhau cwrdd â gweithwyr Cymru yn fawr iawn,” meddai Wynne Evans

“Mae’n hyfryd cael cân arbennig wedi ei chyfansoddi gan Robat Arwyn, a’i hysgrifennu gan Hywel Gwynfryn – y ddau yn gwybod sut i ’sgwennu cân sy’n cyffwrdd,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C.

Fe ychwanegodd ei bod hi’n “braf cael dod i adnabod cymeriadau o’r gweithleoedd yn y gyfres hon, a’u gweld nhw’n dod yn fyw ar y sgrin, ac yn mynd ar y siwrnai gyffrous hon gydag Wynne.”