Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthod cais dadleuol i adeiladu hyd at 366 o dai yn ardal Pen-y-ffridd, ym Mangor.

Roedd y cwmni datblygu Morbaine Cyf o Swydd Gaer yn gobeithio adeiladu’r tai ar safle 35 acer yn ardal Penrhosgarnedd, rhwng Ysbyty Gwynedd a Ffordd Caernarfon.

Roedd cynghorwyr wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun o 6 i 5.

Gan fod y penderfyniad yn mynd yn erbyn argymhelliad swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd, bydd cyfnod o ‘gnoi cil’ ar y cynnig a bydd yn cael ei gyflwyno eto i’r pwyllgor ar ddyddiad arall.

Dydy’r dyddiad hwnnw heb gael ei gadarnhau eto.

Roedd y cynllun wedi denu gwrthwynebiad chwyrn gan drigolion lleol ac ymgyrchwyr iaith, sy’n dadlau y bydd yn ‘gwthio’r Gymraeg ymhellach i’r ymylon’ yn y ddinas.

‘Chwalu cymunedau’

Dywedodd Howard Huws, gwrthwynebydd y cynllun yn y cyfarfod heddiw, ei fod yn gynllun ‘diangen’ sy’n ‘codi pentref i gymudwyr’ yn unig.

Fe leisiodd pryderon dros yr iaith gan ddweud mai hon yw un o’r safleoedd ‘Cymreicaf’ ym Mangor ac y byddai datblygiad o’r fath yn ‘chwalu cymunedau’.

Yn eu hadroddiad, mae swyddogion cynllunio Gwynedd yn dweud na fyddai’r datblygiad “yn debygol o achosi tyfiant sylweddol yn y boblogaeth a all effeithio’n andwyol ar yr iaith Gymraeg”.

Fel sy’n cael ei nodi, mae hyn oherwydd bod Bangor yn boblog, bod canran uchel o fyfyrwyr (di-Gymraeg) yno a bod canran siaradwyr Cymraeg Ward Dewi yn gymharol isel.

Ond maen nhw’n cydnabod y gall fod “potensial y byddai’r tai yn cael eu prynu gan weithwyr di-Gymraeg Ysbyty Gwynedd neu’r Brifysgol”.

Y cynllun

Byddai’r 366 o dai newydd yn cael eu hadeiladu ar gaeau oedd yn arfer cael eu defnyddio gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, ac sy’n dafliad carreg oddi wrth Ysbyty Gwynedd a siopau ar Ffordd Caernarfon.

Byddai’r datblygiad ym Mhen Y Ffridd hefyd yn cynnwys adeiladu ffyrdd cysylltiol newydd i’r stad, llwybrau cerdded, llefydd parcio a gofod ar gyfer meysydd chwarae.

Yn ôl y datblygwyr, bydd yn cymryd hyd at 12 mlynedd i adeiladu’r tai i gyd os bydd 366 yn cael eu codi, gyda thua 30 o dai yn cael eu codi bob blwyddyn.

Mae pryderon dros dagfeydd traffig hefyd wedi cael eu codi ond mae’r swyddogion wedi dweud nad yw hynny’n broblem mwyach.