Wrth i selogion a ffyddloniaid Saith Seren yn Wrecsam ymgynnull y penwythnos hwn i wylio tîm rygbi Cymru’n herio’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, bydd y ddarlith radio Tynged yr Iaith yn parhau i ddylanwadu’n gryf ar gadeirydd y dafarn Gymraeg.
Mae Chris Evans yn cwestiynu a fyddai Saith Seren wedi cael ei sefydlu o gwbl oni bai am neges bwerus Saunders Lewis yn 1962, ac yntau wedi derbyn her yr areithiwr fod angen “penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth ac ymdrech” er mwyn achub y Gymraeg fel iaith fyw.
“I fi, y neges yn Tynged yr Iaith ydi, mae’n rhaid i ni fod yn falch o’n hiaith, a’r diwylliant hefyd ond yr iaith yn bennaf, ac mae rhaid i ni frwydro dros yr iaith a gwneud ymdrech,” meddai wrth golwg360.
“Fasa’n ddigon hawdd i ni eistedd yn ôl a mwynhau byw, fel oedd Saunders yn ddeud, ond mae rhaid i ni ymgyrchu dros yr iaith ac amddiffyn yr iaith, ac mae hwnna’n cymryd ymdrech ac aberth – dyna dwi’n trio’i wneud efo Saith Seren.
“Dwi’n mynnu bo ni’n dangos y rygbi ar S4C yn Gymraeg. Fysa’n hawdd iawn, am bod lot o Gymry di-Gymraeg yn Saith Seren yn gwylio’r rygbi, i newid i Saesneg fel bod pawb yn deall.
“Ond na, mae rhaid i ni sefyll dros yr iaith a dangos o yn Gymraeg. Mae yna dipyn o dafarndai eraill os ydi pobol eisiau’i wylio fo efo sylwebaeth Saesneg.
“Mae’n gwneud i ni deimlo’n falch dros yr iaith a gwneud yn siwr bo ni’n sefyll i fyny drosti, neu’n fuan iawn fydd yr iaith yn diflannu fel oedd Saunders yn rhybuddio.”
‘Dysgu dipyn am hanes Cymru’
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ar ei liwt ei hun ac nid mewn gwersi y dysgodd Chris Evans am hanes Tynged yr Iaith.
“Do’n i ddim wedi gwneud llawer iawn o gwbl am hanes Cymru [yn yr ysgol],” meddai.
“Felly pan es i i Fangor i’r brifysgol, fe wnes i ddod ar draws Tynged yr Iaith yn y llyfrgell, a dechrau gwrando ar y ddarlith a chael fy ysbrydoli, a dweud y gwir.
“Gwnes i ddysgu dipyn am hanes Cymru – y Ddeddf Uno, er enghraifft, a Tryweryn – do’n i’n gwybod fawr ddim am hanes Tryweryn – a chefais i fy ysbrydoli’n fawr gan y ddarlith, a dysgu dipyn am hanes Cymru drwy astudio’r ddarlith.”
Mae’n “bendant” ei farn y dylid dysgu’r hanes i blant mewn ysgolion yng Nghymru heddiw, ond pa wersi mae modd eu dysgu am Gymru yr oesoedd a fu?
“Mae o’n dangos mor wan mae Cymru wedi bod yn amddiffyn ein hiaith ein hunain,” meddai.
“Dyna wnes i gymryd o’r ddarlith, heblaw am ambell achos fel y daith i’r Wladfa ym Mhatagonia efo Michael D. Jones, ac mae cyfeiriad at hwnna yn y ddarlith hefyd.
“Rydan ni’n treulio lot o amser ac egni yn dysgu Cymraeg i blant, ond mae eisiau ennill eu calonnau nhw, dw i’n teimlo. Ac yn sicr, pan wnes i ddarllen Tynged yr Iaith, wnaeth o daro fi a chynnau tân yn fy mol ac mae’r tân yna’n dal i losgi rŵan, a dyna pam dwi’n gwneud be’ dwi’n gwneud efo Saith Seren a’r papur bro Clawdd yn Wrecsam.
“Dwi’n trio gwneud yr iaith yn fyw ac yn beth cymdeithasol i’r plant rwy’n dysgu ac i’r gymuned Gymraeg yma yn Wrecsam, achos mae yna dueddiad i’r plant mewn addysg Gymraeg mewn lle fel Wrecsam i weld yr iaith fel iaith ysgol.
“Cafodd o ddylanwad enfawr arnaf fi.”
Perthnasedd i’r to iau heddiw
A hithau’n 60 oed erbyn hyn, roedd Chris Evans yn teimlo bod perygl bod y ddarlith wedi dyddio a bod angen ei moderneiddio – nid yn unig ar gyfer y to iau, ond hefyd i ddysgwyr fel y rhai sy’n mynychu Saith Seren.
I’r perwyl hwnnw, aeth e ati rai blynyddoedd yn ôl i olygu’r ddarlith i’w gwneud hi’n fyrrach a’i chyfuno â fideo ag is-deitlau Saesneg o sgript gan yr Athro Gruffydd Aled Williams, cyn-Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mae’r ddarlith yn eitha’ hen erbyn rŵan, yn 60 oed, a’r iaith braidd yn hen ffasiwn ac mae hi braidd yn hir i gynulleidfaoedd modern, felly beth wnes i efo’r fideo oedd trio’i wneud o’n haws i blant ac i ddysgwyr ac i Gymry Cymraeg, i ddeud y gwir, i ddeall y ddarlith,” meddai.
“Wnes i gwtogi ychydig bach arni hi a’i gwneud yn fwy gweledol. Wnes i roi lluniau efo beth roedd Saunders Lewis yn sôn amdano fo yn y ddarlith, a hefyd rhoi is-deitlau Saesneg i fynd efo’r Gymraeg i’w wneud o’n haws i bobol fynd ato fo a deall a gwerthfawrogi cynnwys y ddarlith.
“Achos dydy hi ddim yn ddarlith hawdd ei dilyn yn y fformat gwreiddiol, dwi’n teimlo, felly dyna’r syniad tu ôl y ddarlith.
“Dwi wedi cael ambell sylw ar YouTube gan bobol yn diolch i fi a dweud bo nhw wedi mwynhau.
“Dwi’n gobeithio, wrth i ni ddathlu 60 mlynedd, fydd hi’n cael mwy o sylw a bydd mwy o bobol yn dod ar draws y ddarlith ac yn cael eu hysbrydoli fel wnes i.”