Y diweddar John Sabine (Llun: Heddlu De Cymru)
Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru mai gweddillion John Sabine oedd y sgerbwd y daethpwyd o hyn iddo wedi’i lapio mewn plastig ym mhentre’ Beddau.
Fe fyddai’r diweddar John Sabine wedi bod yn 85 eleni, pe bai wedi cael byw. Y gred yw ei fod wedi symud i fyw i Trem-Y-Cwm gyda’i wraig, Leigh Ann Sabine, ym mis Chwefror 1997. Welodd neb mohono wedi’r flwyddyn honno.
Ond mae tystiolaeth DNA wedi cadarnhau mai gweddillion Mr Sabine y daethpwyd o hyd iddyn nhw.
Bu farw ei wraig, Leigh Ann, ar Hydref 30 eleni, a hi bellach ydi’r un sy’n cael ei hamau o’i ladd.
Yn ol Heddlu De Cymru, mae prawf post-mortem wedi sefydlu fod John Sabine wedi marw yn dilyn ymosodiad o ryw fath.