Mae ymchwiliad wedi canfod bod trên cludo nwyddau a achosodd dân enfawr a bygwth trychineb amgylcheddol ger Llangennech wedi digwydd oherwydd ’nam tebygol’ ar y brêcs.
Achosodd diffygion wrth ddylunio a chynnal cydrannau brêc 10 o wagenni’r trên tancer cario disel i ddod oddi ar y cledrau ger Llangennech ar 26 Awst 2020, meddai’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB).
Buodd rhaid i oddeutu 300 o bobl adael eu tai oherwydd maint y tân, a gymerodd bron i ddeuddydd i’r gwasanaeth tân ddiffodd.
Llosgwyd tua 116,000 litr o ddisel, gyda 330,000 litr arall yn gollwng i’r ardal leol, gan achosi pryder mawr am ddyfrffyrdd a bywyd gwyllt.
Caewyd y rheilffordd am fwy na chwe mis.
Cymharodd Cyfoeth Naturiol Cymru’r digwyddiad â thrychineb Sea Empress yn 1996, pan ollyngodd tancer 72,000 tunnell o olew crai a channoedd o dunelli o danwydd ar ôl hwylio i mewn i dir oddi ar Sir Benfro.
Arweiniodd y corff a noddir gan Lywodraeth Cymru waith adfer amgylcheddol mawr, a oedd yn cynnwys cloddio 30,000 tunnell o bridd oedd wedi’i lygru â thanwydd.
Mae’n parhau i fonitro’r ardal er mwyn sicrhau diogelwch cocos a physgod cregyn.
Dywedodd prif arolygydd damweiniau rheilffordd, Simon French, bod canlyniadau’r digwyddiad yn “drychinebus” a bydd yn “cymryd blynyddoedd i adfer”.
Roedd yn cydnabod bod trenau sy’n cario nwyddau peryglus “yn chwarae rhan bwysig yn economi’r Deyrnas Unedig” ond dywedodd bod yn rhaid rheoli’r risgiau’n ddigonol.
Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd – yr RAIB – wedi nodi problemau o ran cynnal a chadw trenau cludo nwyddau mewn mwy na 10 damwain dros y degawd diwethaf.
Mae angen i ddull y diwydiant rheilffyrdd o ymdrin â’r mater “wella”, meddai Simon French.
Ychwanegodd: “Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gwneud hyn yn iawn.
Roedd y trên, sy’n eiddo i DB Cargo UK, yn teithio i derfynfa dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire pan ddigwyddodd y ddamwain.
Gwnaeth yr RAIB gyfres o argymhellion diogelwch, gan gynnwys bod gwneuthurwr y cydrannau diffygiol yn adolygu ei ddyluniad.