Mae’r manwerthwr Wilko wedi cadarnhau cynlluniau i gau dwy siop yn y de.

Mae’r cynlluniau i gau’r siopau yn Llanelli a Merthyr Tudful yn rhan o gynllun ehangach Wilko i gau drysau 16 siop dros y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y cynlluniau, mae disgwyl i’r holl siopau gau erbyn mis Ionawr 2023, gyda phob siop yn mynd trwy gyfnod ymgynghori 30 diwrnod.

Mae 22 o staff yn gweithio yn siop Wilko yn Llanelli, a 19 ym Merthyr Tudful, a bydd yr ymgynghoriadau’n cael eu cynnal ym mis Awst a mis Medi.

Mae undeb GMB wedi rhybuddio bod y newyddion yn “ergyd arall i’r Stryd Fawr”, gan effeithio ar dros 300 o swyddi dros y Deyrnas Unedig.

‘Esblygu’

“Mae gwasanaethu ein cwsmeriaid a’n cymunedau yn rhan o’n hanes gan fynd yn ôl i’r 30au, ond nid oes gwadu bod y ffordd mae pobol yn siopa gyda ni, a lle mae pobol eisiau siopa gyda ni, wedi newid,” meddai Jermone Saint-Marc, prif weithredwr Wilko.

“Fel busnes, rydyn ni’n esblygu ac mae hynny’n cynnwys gweithio gyda landlordiaid er mwyn cael amodau mwy ffafriol, yn ogystal ag edrych ar leoliadau a gosodiad siopau.

“Byddwn ni’n parhau i ddod ynghyd er mwyn gwneud ein busnes yn well er mwyn sicrhau dyfodol dros 16,000 o aelodau o’r tîm.

“Byddwn ni’n gwneud popeth posib i gefnogi aelodau o’n tîm fydd yn cael eu heffeithio a byddan nhw’n cael cynnig unrhyw swyddi sydd ar gael mewn siopau cyfagos.

“Rydyn ni’n ymddiheuro i’r cymunedau hyn lle mae’r siopau’n cau, ond byddwn yn parhau i gynnig popeth sydd ei angen arnyn nhw mewn siopau cyfagos neu drwy wilko.com.”

‘Ergyd arall’

Dywed Roger Jenkins, Swyddog Cenedlaethol undeb GMB, fod y newydd yn un drwg i weithwyr Wilko a’r cymunedau sy’n defnyddio’r siopau.

“Mae’n ergyd arall i’r Stryd Fawr, ac mae GMB yn galw ar gynghorau a landlordiaid i adolygu eu prydlesau masnachol a chynnig rhent rhatach,” meddai.

“Dyw strydoedd mawr a chanolfannau siopau gwag ddim o fudd i neb, ond gyda 400 o siopau’n cau’r wythnos [dros y Deyrnas Unedig], mae hyn yn anochel – oni bai bod costau eiddo’n cael eu gostwng.

“Bydd GMB yn cyfarfod ag aelodau Wilko nawr i drafod ein camau nesaf.”