Fe fydd bron i £300m yn ychwanegol ar gyfer y Gwasnaeth Iechyd yng Nghymru, meddai’r Gweinidog Cyllid heddiw, wrth gyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mewn datganiad i’r Senedd dywedodd Jane Hutt bod y setliad yn un “heriol” ac y bydd gostyngiad o 3.6% yng nghyllideb y Llywodraeth mewn termau real erbyn 2019-20.

Dywedodd Jane Hutt: “Mae hwn yn setliad heriol arall, sy’n cael ei wneud ar adeg pan rydyn ni wedi gweld un toriad ar ôl y llall mewn termau real i’n Cyllideb dros y pum mlynedd diwethaf.

“O ganlyniad, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Ond, rydyn ni wedi gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu’r gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i bobl Cymru.

“Rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi ar lefelau na welwyd o’r blaen mewn iechyd. Mae mwy na chwarter biliwn o bunnoedd yn mynd i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn 2016-17 – sy’n dangos ein hagwedd ehangach at iechyd a gofal cymdeithasol, ac at werth buddsoddi er mwyn atal problemau.”

Iechyd

O’r £293.5m sy’n cael ei addo, bydd £200m yn mynd at wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd fel ysbytai, gofal cymunedol a gofal sylfaenol.

Bydd gwasanaethau pobol hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl yn cael £30m yn ychwanegol a bydd £33.5m yn rhagor o gyllid cyfalaf yn mynd at adeiladu seilwaith newydd yn ystod 2016/17.

Bydd cynnydd hefyd o £30m i’r Gronfa Gofal Canolraddol a fydd yn helpu gwasanaethau i gefnogi pobol hŷn a phobol sy’n agored i niwed i’w helpu i aros yn annibynnol er mwyn osgoi eu hanfon i’r ysbyty yn ddiangen.

Yn ôl y llywodraeth, mae’r buddsoddiad hwn yn golygu bod y gwariant y pen yng Nghymru yn debygol o fod yn uwch nag yn Lloegr yn ystod 2016-17.

‘Sgandal cenedlaethol’ – Ceidwadwyr Cymreig

Ond er yr ‘hwb’ i gyllideb y gwasanaeth iechyd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad yw’n ddigon gan fod toriadau i’r gwasanaeth yn y gorffennol wedi achosi iddo golli biliwn o bunnoedd ers 2010/11.

“Mae’r niwed wedi cael ei wneud. Israddio ysbytai, oedi enfawr mewn amseroedd aros, methiannau i recriwtio staff; mae’r helynt hyn yn ganlyniad uniongyrchol o doriadau Llafur i gyllideb y gwasanaeth iechyd,” meddai Nick Ramsay, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.

“Drwy fethu â diogelu’r gyllideb, mae ein gwasanaeth iechyd wedi cael ei amddifadu o un biliwn o bunnoedd ers 2010/11.”

Ac yn ôl Nick Ramsay, o ystyried oedran ein poblogaeth sy’n gynyddol oedrannus, mae gwariant y pen yng Nghymru yn parhau i fod £50 yn is nag yn Lloegr.

“Mae hynny’n sgandal cenedlaethol,” ychwanegodd.

Ysgolion

Yn ei chyllideb, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion ac Addysg Bellach.

Bydd cyllid ysgolion yn cael £40m ychwanegol  – bydd £35m o’r cyllid hwn yn mynd at gefnogi gwariant ar adnoddau ysgolion ‘y rheng flaen’ drwy’r cynghorau sir.

Ond mae’r ffigurau’n dangos y bydd cyllideb Llywodraethau Leol yn cwympo 2%, i £4.4 biliwn.

Yn y sector Addysg Bellach, bydd £5m ychwanegol yn mynd at greu 2,500 o brentisiaethau a bydd £10 miliwn arall yn golygu na fydd unrhyw fyfyriwr yng Nghymru yn talu mwy am ei radd nag y byddai wedi gorfod gwneud yn 2010-11.

Bydd brecwast ysgol, llaeth ysgol, nofio a phresgripsiynau am ddim yn parhau, yn ogystal â thocynnau teithio rhatach.

Mae’r Gyllideb hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer rhoi mwy na £230m o fuddsoddiad cyfalaf i ysgogi twf economaidd, cefnogi cynlluniau tai a chreu swyddi.

‘Toriad enfawr i addysg uwch’

Wrth ymateb i’r Gyllideb Ddrafft dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC:

“Mae unrhyw gynnydd mewn buddsoddiad iechyd i’w groesawu, ond chaiff pobl mo’u twyllo gan gyllideb driciau Llafur. I ateb y pwysau sy’n wynebu staff ein GIG a phawb sy’n elwa o’r gwasanaeth, mae angen gwario estynedig dros y pum mlynedd nesaf. Gyda’r buddsoddiad ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw, mae cleifion yn haeddu gweld gwelliannau pendant mewn canlyniadau iechyd.

“Mae cwestiynau o bwys i’w hateb hefyd ynghylch y toriad enfawr o £41 miliwn o addysg uwch. Bydd toriad o’r fath yn gam enbyd yn ôl i brifysgolion Cymru wrth iddynt geisio cyrraedd lefel sefydliadau blaenaf y byd ac oherwydd ein bod ni’n disgwyl iddynt arwain mewn ymchwil a datblygu i wella rhagolygon economaidd ein cenedl.

“Mae Plaid Cymru heddiw wedi ymrwymo i ymchwilio i’r rheswm dros y toriad llym hwn, ac i ddarganfod pa effaith yn union gaiff ar ein prifysgolion.”